Salers (gwartheg)

Oddi ar Wicipedia
Gwartheg Salers

Brid o wartheg yn hannu o Cantal, Ffrainc yw Salers

Maent yn wartheg mawr, gyda'r buchod yn pwyso rhwng 700 a 750 cilogram ac yn sefyll rhyw 1.40 meter. Mae ganddynt got trwm coch neu ddu, a chyrn hir golau.

Fe'i magwyd i ddechrau i weithio ac fe'i gwerthfawrogir am eu gallu i wrthsefyll tymheredd cyfnewidiol, eu ffrwythlondeb, eu cig a'u llaeth, er gwaethaf y ffaith bod rhaid cael presenoldeb y llo cyn iddynt ollwng eu llaeth wrth odro.

Dolennau allanol[golygu | golygu cod]