Saint-Pée-sur-Nivelle
Oddi ar Wicipedia
Cymuned yn Ffrainc yw Saint-Pée-sur-Nivelle (Basgeg: Senpere), a leolir yn département Pyrénées-Atlantiques yn rhanbarth Aquitaine. Mae'n rhan o Wlad y Basg o fewn Ffrainc lle siaredir Basgeg: Senpere yw'r enw yn Fasgeg. Poblogaeth: 5,106 (2006).
Gorwedd yn ne-orllewin Ffrainc am y ffin â Sbaen, ym mryniau gorllewinol y Pyreneau i'r de o ddinas Bayonne.
Dolenni allanol [golygu]
- (Ffrangeg) Gwefan swyddogol