Saint-Louis-du-Ha! Ha!
Oddi ar Wicipedia
Plwyf (tref fechan) yn rhanbarth Témiscouata, Bas-Saint-Laurent, ger lan ddeheuol Afon Saint Lawrence yn Québec, Canada yw Saint-Louis-du-Ha! Ha!. Fe'i lleolir i'r de-ddwyrain o Rivière-du-Loup ar Briffordd 185, tua hanner y ffordd i Edmundston yn New Brunswick. Mae ganddi boblogaeth o 1,471 sy'n dibynnu yn bennaf ar amaethyddiaeth.
Arwyddair Saint-Louis-du-Ha! Ha! yw "Solidaire dans le labeur".
Mae tarddiad yr enw yn ansicr. Gallai dod o'r gair Ffrangeg hynafol haha "rhwystr", ac yn cyfeirio at rwystr i deithwyr cynnar efallai.
Dolenni allanol [golygu]
- (Ffrangeg) Gwefan Saint-Louis-du-Ha! Ha!
- (Ffrangeg) Saint-Louis-du-Ha! Ha! ar wefan y Commission de toponymie, llywodraeth Quebec