Saint-Louis, Sénégal
Dinas yn Sénégal sy'n brifddinas y rhanbarth o'r un enw yw Saint-Louis, neu Ndar yn yr iaith Wolof leol. Fe'i lleolir yng ngogledd-orllewin eithaf Sénégal ger y ffin a Mauritania, tua 25 km o aber Afon Sénégal, a 320 km i'r gogledd o Dakar, prifddinas Senegal. Mae ganddi boblogaeth o tua 176,000 (amcangyfrifiad 2005). Saint-Louis oedd prifddinas gwladfa Ffrengig Sénégal o 1673 hyd annibyniaeth y wlad yn 1960 ac mae dylanwad Ffrainc yn amlwg ar y bensaernïaeth arbennig, y diwylliant lleol a'r iaith. O 1920 hyd 1957 bu'n brifddinas gwladfa Ffrengig Mauritania hefyd.
Mae gan y ddinas nifer o adeiladau hardd o'r cyfnod Ffrengig ac mae'r diwylliant lleol wedi cael ei ddisgrifio fel rhan o'r diwylliant Creol traws-Iwerydd, gan ei fod yn gorwedd ger lan Cefnfor Iwerydd ac yn rhannu llawer mewn cyffredin a dinasoedd Creol eraill fel Bahia, Havana a New Orleans.
Mae'n cynnal sawl digwyddiad cerddorol ac artistig ac yn denu twristiaid o bob man, ond yn enwedig o Ffrainc, i gael blas ar ei bywyd a diwylliant unigryw.
Mae Ynys Saint-Louis, lle lleolir yr hen ddinas yng nghanol Afon Senegal, ar restr UNESCO o Safleoedd Treftadaeth y Byd.
Gefeilldrefi [golygu]
- St. Louis, Missouri, Unol Daleithiau
- Fez, Moroco - (1979)
- Liège, Gwlad Belg
- Bologna, Yr Eidal - (1991)
Dolenni allanol [golygu]
- (Ffrangeg) saintlouisdusenegal.com: "Le portail touristique et culturel de Saint-Louis du Senegal"