Safi
Oddi ar Wicipedia
Dinas ym Moroco yw Safi (Arabeg: آسفي), a leolir yng ngorllewin y wlad ar lan Cefnfor Iwerydd. Mae'n brifddinas rhanbarth Doukkala-Abda, gyda phoblogaeth o 284,750 (cyfrifiad 2004), ond mae'r ardal ehangach o'i gwmpas yn gartref i tua 793,000 o bobl (1987).
Mae Safi yn borthladd pysgota sy'n ganolfan diwydiant sardîns, ac sy'n allforio ffosfad, brethyn a gwaith ceramig hefyd. Roedd Safi, wrth yr enw Safim, dan reolaeth Portiwgal o 1488 hyd 1541.
Nawddsant Safi yw Abu Mohammed Salih.
Prif ardaloedd y ddinas [golygu]
|
|
|
Dolenni allanol [golygu]
Mae gan Gomin Wikimedia gyfryngau sy'n berthnasol i:
- (Arabeg) (Ffrangeg) Gwefan swyddogol Safi
- (Arabeg) (Ffrangeg) Gwefan swyddogol canolfan cludiant Safi