Saethu Michael Brown gan heddlu UDA

Oddi ar Wicipedia
Cofeb dros dro i Michael Brown; 20 Awst

Saethwyd Michael Brown ar 9 Awst 2014 yn Ferguson, Missouri, un o faestrefi St. Louis. Bachgen 18-oed du oedd Michael Brown, ac fe'i saethwyd yn farw gan Darren Wilson, un o heddweision gwynion dinas Ferguson. Dilynwyd y digwyddiad hwn, a'r amgylchiadau amheus, gan brotestiadau ledled Unol Daleithiau America a gwledydd eraill. Bu hefyd yn sbardyn i drafodaethau ynghylch hawliau pobl dduon, y gyfraith a gor-ddefnydd grym heddweision. Ceir honiadau gan rhai carfanau fod y saethu'n llofruddiaeth.

Y digwyddiad[golygu | golygu cod]

Darren Wilson yn dangos clais ar ei foch

Cerdded i lawr y stryd oedd Brown a'i gyfaill Dorian Johnson, pan yrrodd Wilson atynt yn ei gar a gorchymyn iddynt symud i'r pafin. Dechreuodd Brown a Wilson ddadlau gyda'i gilydd drwy'r ffenest agored a thaniodd Wilson ei wn. Rhedodd y ddau ddyn du i wahanol gyfeiriad a saethodd Wilson atynt sawl gwaith wrth iddynt ffoi. Taniodd 12 gwaith;[1] tarrodd 8 neu 9 o'i fwledi Brown.[2][3][4][5]

Roedd rhai tystion (i'r digwyddiad) yn hawlio fod dwylo Brown i fyny i ddangos ei fod yn ildio, ond roedd eraill yn gwadu hynny; dywedodd tystion eraill mai rhedeg tuag at Wilson yr oedd.

Ar ôl y digwyddiad[golygu | golygu cod]

"Hands up! Don't shoot!" Slogan proteswyr ledled y byd

Canylyniad i'r saethu oedd aflonyddwch cymdeithasol yn Ferguson, yn bennaf gan fod y rhan fwyaf o bobl yn argyhoeddiedig mai ffoi oedd Brown ac yn rhannol oherwydd tensiwn ers tro rhwng y mwyafrif du o fewn cymuned y ddinas a'r heddlu - gyda'r mwyafrif ohonynt yn wyn.[6] Protests, both peaceful and violent, along with vandalism and looting, continued for more than a week, resulting in night curfews. Ar ben hyn, beirniadwyd ymateb yr heddlu i'r digwyddiad yn hallt gan y cyfryngau a gwleidyddion. Mynegwyd pryder fod yr heddlu wedi bod yn ansensitif, fod eu techneg yn rhy llawdrwm a'u dulliau'n rhy 'mfwrol'. Cafwyd nifer o brotestiadau heddychlon yn ystod yr wythnosau dilynol.

Ar 24 Tachwedd dywedodd Robert P. McCulloch, Prif Erlynydd St. Louis, Missouri i uchel-reithgor ymchwilio i'r mater a phenderfynu na ddylid erlyn Wilson. Cofrestrwyd aelodau'r uchel-reithgor ym Mai 2014 - cyn y saethu, ac roedd tri'n ddu a naw yn wyn.[7]

Ar 1 Rhagfyr 2014 cyhoeddodd yr Arlywydd Barack Obama y byddai llywodraeth ffederal y wlad yn gwario US$75 miliwn ar gamerau gwisg i heddweision, fel ymateb i saethu Brown.[6][8]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. Ffrangeg,Ferguson : la version du policier dévoilée , Les Échos, 25 Tachwedd 2014.
  2. Berkowitz, Bonnie; Johnson, Richard; Cameron, Darla; Schaul, Kevin; Robinson, Ian (26 Tachwedd 2014). "The confrontation: Different stories". The Washington Post. Cyrchwyd 30 Tachwedd 2014.
  3. Curry, Colleen; Ghebremedhin, Sabina (18 Awst 2014). "Michael Brown Could Have Survived First 5 Shots, Last Shot Killed Him, Autopsy Says". ABC News. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2014-11-26. Cyrchwyd 26 Tachwedd 2014. Unknown parameter |deadurl= ignored (help)
  4. Tacopino, Joe (November 25, 2014). "Darren Wilson on why he shot Michael Brown". New York Post. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2014-11-25. Cyrchwyd 26 Tachwedd 2014. Unknown parameter |deadurl= ignored (help)
  5. Robles, Frances; Bosman, Julie (17 Awst 2014). "Autopsy Shows Michael Brown Was Struck at Least 6 Times". The New York Times. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2014-08-19. Cyrchwyd 21 Awst 2014. Unknown parameter |deadurl= ignored (help)
  6. 6.0 6.1 Lowery, Wesley; Leonnig, Carol D.; Berman, Mark (August 13, 2014). "Even before Michael Brown's slaying in Ferguson, racial questions hung over police". The Washington Post. Cyrchwyd August 24, 2014.
  7. Staff reports (22 Awst 2014). "Grand jury in Michael Brown case: 3 black members, 9 white". St. Louis Post-Dispatch. Cyrchwyd 26 Awst 2014. Unknown parameter |deadurl= ignored (help)
  8. "Obama Wants More Police Funding After Ferguson Unrest". VOA News. December 1, 2014. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2014-12-02. Cyrchwyd December 2, 2014. Unknown parameter |deadurl= ignored (help)