Gwaith y saer
Oddi ar Wicipedia
(Ailgyfeiriad oddi wrth Saer)
Mae "Saer" a "Seiri" yn ailgyfeirio i'r erthygl hon. Ar gyfer defnyddiau eraill, gweler Saer (gwahaniaethau).
Dau saer o Gorwen gyda'u hoffer trin pren.
Adeiladwr sy'n trin pren ydy'r saer (hefyd saer coed, Saesneg: carpenter) er mwyn codi tŷ, gwneud celfi allan o bren ayb. Caiff ei gydnabod fel crefftwr ac mae dyn wedi bod yn gwneud gwaith coed ers miloedd o flynyddoedd, gan gynnwys gynnwys cyfeiriadau yn y Beibl at Noa a Joseff, tad yr Iesu a gafodd ei adnabod ar adegau fel "Mab y Saer".
Yn yr Almaen, Japan a Chanada ceir safonau llym i sicrhau'r gwaith gorau posibl. Yn Unol Daleithiau America ar y llaw arall, nid oes angen unrhyw fath o gymhwyster i wneud y gwaith ac mae 98.5% o seiri yn ddynion.