Sacha Baron Cohen
| Sacha Baron Cohen | |
|---|---|
Baron Cohen mewn dangosiad cyntaf y ffilm Hugo yn Ninas Efrog Newydd ar 21 Tachwedd 2011 |
|
| Ganwyd | 13 Hydref, 1971 Hammersmith Llundain, |
| Yn enwog am | Ali G Indahouse,, Borat, Brüno |
| Galwedigaeth | Actor, digrifwr, ysgrifennwr |
Actor, digrifwr ac ysgrifennwr Seisnig ydy Sacha Noam Baron Cohen (Hebraeg: סשה נועם ברון כהן, ganed 13 Hydref, 1971). Mae'n fwyaf adnabyddus am ei gymeriadau comedi Ali G (ffug berson ifanc o un o faestrefi Staines), Borat Sagdiyev (newyddiadurwr gwrth-semitaidd a rhywiaethol), a Brüno (newyddiadurwr ffasiwn hoyw camp dros ben llestri Awstriaidd). Graddiodd ym Mhrifysgol Caergrawnt.[1]
Yn ei weithiau, cynhalia gyfweliadau â ffigurau parchus wrth chwarae rhan un o'i gymeriadau er mwyn gwneud sbort ohonynt. Yn amlach na pheidio, ni sylweddola'r bobl sy'n cael eu cyfweld nad yw Cohen o ddifri. Cydnabuwyd llawer o waith Sacha Baron Cohen gydag enwebiadau Emmy, enwebiad am Oscar am yr Addasiad Orau o Ffilm, Gwobr BAFTA, a Golden Globe am yr Actor Gorau am ei waith yn y ffilm Borat: Cultural Learnings of America for Make Benefit Glorious Nation of Kazakhstan.
Ar ôl i'r ffilm Borat gael ei rhyddhau, dywedodd Cohen y byddai'n ymddeol ar ôl Borat ac Ali G am fod y cyhoedd wedi dod yn rhy gyfarwydd gyda'i gymeriadau. Yn yr un modd, dywedodd yr un peth ar ôl i'r ffilm Brüno gael ei rhyddhau, gan ddatgan y byddai'r cymeriad yn ymddeol.
Ffilmograffiaeth [golygu]
| Blwyddyn | Ffilm | Rôl | Nodiadau |
|---|---|---|---|
| 1995 | Jack and Jeremy's Police 4 | Person a ddienyddiwyd | Rhaglen arbennig ar gyfer y teledu |
| 1995 | Pump TV | Cyflwynydd teledu, sianel loeren leol y DU | Rhaglen arbennig ar gyfer y teledu |
| 1996 | Punch | di-enw | ffilm fer |
| 1998 | Live from the Lighthouse | Ali G | Rhaglen arbennig ar gyfer y teledu |
| 1998-1999 | The 11 O'Clock Show | Ali G | Cyfres deledu |
| 2000 | The Jolly Boys' Last Stand | Vinnie | |
| Da Ali G Show (DU) | Ali G, Borat Sagdiyev, Brüno | Cyfres deledu | |
| 2002 | Ali G Indahouse | Ali G, Borat Sagdiyev | |
| 2003 | Spyz | James Bond (Ali G) | ffilm fer |
| 2003-2004 | Da Ali G Show (UDA) | Ali G, Borat Sagdiyev, Brüno | TV series |
| 2005 | Curb Your Enthusiasm | Larry's Guide #2 (guest star) | Season 5, episode 10 "The End" |
| Madagascar | King Julien | Llais | |
| 2006 | Talladega Nights: The Ballad of Ricky Bobby | Jean Girard | |
| Night of Too Many Stars: An Overbooked Event for Autism Education | Borat Sagdiyev | Rhaglen arbennig ar gyfer y teledu | |
| Borat: Cultural Learnings of America for Make Benefit Glorious Nation of Kazakhstan | Borat Sagdiyev | ||
| 2007 | Sweeney Todd: The Demon Barber of Fleet Street | Signor Adolfo Pirelli | |
| 2008 | Madagascar: Escape 2 Africa | King Julien | Llais |
| 2009 | Brüno | Brüno | |
| 2012 | Madagascar 3: Europe's Most Wanted | King Julien | Llais |
Cyfeiriadau [golygu]
- ↑ Christ's College - Alumni - Sacha Baron Cohen. © 2008 Christ's College