SEAT Ibiza

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio

SEAT Ibiza (6J)

Car yn nosbarth supermini a gynhyrchir a'i farchnatir yn Ewrop gan y gwneuthurwr Sbaenaidd SEAT yw'r SEAT Ibiza.

Cyflwynwyd gyntaf ym 1984, gyda'r enw SEAT S.A., yn seiliedig ar gynlluniau ar y cyd gyda Fiat. O'r fersiynau Mark 2 ymlaen, parhawyd i gael ei gynhyrchu gan SEAT S.A., ond roedd y cwmni erbyn hynny yn ran o'r grŵp Almaenig Volkswagen AG. O hynny ymlaen, adeiladwyd a dyluniwyd yr Ibiza, yn yr un modd a cherbydau eraill SEAT, gan ddefnyddio darnau a thechnoleg Volkswagen AG.

Mae pedwar cenhedlaeth o'r Ibiza, sydd yn parhau i gael eu cynhyrchu heddiw. Maent wedi bod ar gael ar ffurf hatchback gyda thri neu bump drws; ac ers 1993, mae fersiynau salŵn , coupé a stad ar gael o dan yr enw SEAT Córdoba.

Automobile stub.svg Eginyn erthygl sydd uchod am gar. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.