S. O. Davies

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio

Gwleidydd Cymreig oedd Stephen Owen Davies, a adwaenid fel rheol fel S. O. Davies (c. 9 Tachwedd 1886 - 25 Chwefror 1972). Bu'n aelod seneddol o 1934 hyd ei farwolaeth.

Ganed ef yn Abercwmboi, a dechreuodd weithio fel glowr yn 12 oed. Cyfunodd hyn a gweithio ar gyfer gradd. Bu'n fyfyriwr ym Mhrifysgol Cymru a Phrifysgol Llundain.

Daeth yn is-lywydd Ffederasiwn Glowyr Prydain Fawr yn 1933. Yn 1934, etholwyd ef yn Aelod Seneddol Llafur dros etholaeth Merthyr Tudful. Roedd yn aml yn anghytuno â pholisïau swyddogol ei blaid, ac yn dilyn trychineb Aberfan, beirniadodd yn hallt y dull y triniwyd y teuluoedd.

Wrth baratoi am etholiad Cyffredinol 1970, teimlai'r Blaid Lafur yn yr etholaeth fod angen ymgeisydd iau, a dewiswyd ymgeisydd arall yn ei le. Safodd S. O. Davies fel ymgeisydd annibynnol, ac enillodd y sedd. Wedi iddo farw yn 1972, enillodd y Blaid Lafur y sedd yn ôl mewn is-etholiad, er i bleidlais Plaid Cymru gynyddu yn sylweddol.

Llyfryddiaeth[golygu]

  • Griffiths, Robert S.O. Davies - a socialist faith (Llandysul : Gwasg Gomer, 1983)

ISBN 0850888875 :

Senedd y Deyrnas Unedig
Rhagflaenydd:
Richard Collingham Wallhead
Aelod Seneddol dros Ferthyr
19341950
Olynydd:
dilewyd yr etholaeth
Rhagflaenydd:
etholaeth newydd
Aelod Seneddol dros Ferthyr Tudful
19501972
Olynydd:
Ted Rowlands