Søren Peder Lauritz Sørensen
Oddi ar Wicipedia
Biocemegydd o Ddenmarc oedd Søren Peder Lauritz Sørensen (1868 - 1939).
Astudiodd Gemeg ym Mhrifysgol Copenhagen. Yn 1901 fe'i apwyntiwyd yn bennaeth yr adran cemeg yn Labordy Carlsberg. Daeth yn arloeswr ym maes crynhoad hydrogen-ïon ac yn 1909 dyfeisiodd y raddfa pH a ddefnyddir i fesuro asidrwydd.