São Paulo (talaith)
Oddi ar Wicipedia
Mae São Paulo yn dalaith ym Mrasil. Dyma un o ganolfannau diwydiannol ac economaidd Brasil. Enwyd y dalaith ar ôl Sant Paul. Mae gan São Paulo y boblogaeth fwyaf, y maes diwydiannol mwyaf a chynhyrchiad economaidd mwyaf y wlad. Y brif ddinas, São Paulo, yw'r ddinas fwyaf yn Ne America. Dau o brif gryfderau'r ardal yw'r bwyd a'r diwylliant. Mae nifer fawr o bobl yn ymweld â Barretos bob blwyddyn er mwyn mynychu'r rodeo Festa do Peão de Boiadeiro. Mae Brotas hefyd yn gyrchfan poblogaidd ar gyfer eco-dwristiaid ac anturiaethwyr. Man poblogaidd arall i ymweld ag ef yn ystod y gaeaf yw Campos do Jordão.
| Taleithiau Brasil | |
|---|---|
| Taleithiau | Acre • Alagoas • Amapá • Amazonas • Bahia • Ceará • Espírito Santo • Goiás • Maranhão • Mato Grosso • Mato Grosso do Sul • Minas Gerais • Pará • Paraíba • Paraná • Pernambuco • Piauí • Rio de Janeiro • Rio Grande do Norte • Rio Grande do Sul • Rondônia • Roraima • Santa Catarina • São Paulo • Sergipe • Tocantins |
| Tiriogaethau | Distrito Federal |