Rutilius Taurus Aemilianus Palladius

Oddi ar Wicipedia
Rutilius Taurus Aemilianus Palladius
Ganwyd4 g Edit this on Wikidata
Bu farw4 g Edit this on Wikidata
DinasyddiaethRhufain hynafol Edit this on Wikidata
Galwedigaethysgrifennwr, bardd Edit this on Wikidata
Blodeuodd4 g Edit this on Wikidata
Am enghreifftiau eraill o'r enw Palladius, gweler y dudalen gwahaniaethu Palladius.

Awdur Rhufeinig a ysgrifennai yn yr iaith Ladin oedd Rutilius Taurus Aemilianus Palladius neu Palladius (fl. 4g).

Ei brif waith yw'r De Re Rustica ("Ar Amaeth"), mewn 14 llyfr. Daeth yn llyfr safonol ar y pwnc ym mlynyddoedd olaf yr Ymerodraeth. Rhagymadrodd yw'r llyfr cyntaf. Yn y deuddeg llyfr nesaf mae'r awdur yn gosod allan rheolau a nodweddion amaeth, yn arbennig hwsmonaeth (magu anifeiliaid), yn ôl y misoedd. Mae'r llyfr olaf yn gerdd hir ar sut i impio coed. Digon sych a rhyddieithol yw ei iaith, ond roedd yn gyfarwydd iawn â'i bwnc ac mae ei waith yn ffynhonnell bwysig ar gyfer ein gwybodaeth o'r byd amaethyddol yn yr Ymerodraeth Rufeinig ddiweddar.

Roedd ei lyfr yn ddylanwadol iawn yn yr Oesoedd Canol fel llawlyfr amaeth.

Darllen pellach[golygu | golygu cod]

  • Palladius (gol. Robert H. Rodgers) Opus Agriculturae, De Veterinaria Medicina, De Insitione. 1975. ISBN 3-598-71573-0
  • Robert H. Rodgers. An Introduction to Palladius. University of London, Institute of Classical Studies, Bulletin Supplement 35. Llundain, 1975.

Dolenni allanol[golygu | golygu cod]