Ruth Madoc

Oddi ar Wicipedia
Ruth Madoc
GanwydMargaret Ruth Llewellyn Baker Edit this on Wikidata
16 Ebrill 1943 Edit this on Wikidata
Norwich Edit this on Wikidata
Bu farw9 Rhagfyr 2022 Edit this on Wikidata
Man preswylGlyn-nedd Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Alma mater
Galwedigaethactor teledu, actor ffilm, actor, actor llwyfan Edit this on Wikidata
PriodPhilip Madoc Edit this on Wikidata
Gwefanhttp://www.ruthmadocofficial.co.uk/index.html Edit this on Wikidata

Actores a chantores oedd Ruth Madoc (née Llewellyn) (16 Ebrill 19439 Rhagfyr 2022).[1] Roedd hi'n fwyaf adnabyddus am ei rôl fel Gladys Pugh yng nghyfres gomedi teledu y BBC, Hi-de-Hi! yn ystod y 1980au er iddi ymddangos yn fwy diweddar fel mam Daffyd Thomas yn yr ail gyfres o Little Britain.

Bywyd cynnar[golygu | golygu cod]

Ganwyd Ruth Llewellyn yn Norwich lle roedd eu rhieni yn gweithio yn y byd meddygol - ei mam yn nyrs a'i thad yn weinyddwr. Roedd ei rhieni yn rhy brysur gyda'u gwaith ar y pryd ac felly magwyd Ruth gan ei mamgu, Etta Williams, yn Llansamlet ger Abertawe.[2] Cychwynnodd weithio yn y theatr yn 16 oed a chafodd ysgoloriaeth i astudio yn RADA[3].

Gyrfa[golygu | golygu cod]

Wedi gadael RADA gweithiodd yn The Black and White Minstrel Show. Chwaraeodd Madoc ran Fruma Sarah yn y fersiwn ffilm o'r sioe gerdd Fiddler on the Roof, ac ymddangosodd fel Mrs Dai Bread Two yn y ffilm Under Milk Wood. Bu'n westai rheolaidd hefyd ar rhaglen adloniant BBC Cymru Poems and Pints. Roedd hefyd yn lleisio un o'r creaduriaid o blaned arall yn hysbysebion Cadbury's ar gyfer cynnyrch 'Smash' yn ystod y 1970au.

Mae hi hefyd yn actores lwyfan brofiadol sydd wedi bod yn rhan o nifer o gynhyrchiadau gan gynnwys Under Milk Wood, Steel Magnolias, dramâu Agatha Christie (And Then There Were None...), a'r sioe gerdd Annie yn ogystal ag amryw berfformiadau mewn pantomeimiau.

Ymddangosodd hefyd ar sioe deledu realiti LivingTV I'm Famous and Frightened! ac enillodd y gystadleuaeth. Derbyniodd radd anrhydeddus hefyd o Brifysgol Abertawe ym mis Gorffennaf 2006.

Bywyd personol[golygu | golygu cod]

Priododd yr actor Philip Madoc yn 1961. Cawsant fab, Rhys, a merch, Lowri, ond ysgarodd y ddau ohonynt yn 1981. Bu farw Ruth Madoc mewn ysbyty yn Torquay, yn 79 oed, ar ôl cwympo tra roedd hi'n paratoi i ymddangos mewn pantomeim.[4]

Ffilmiau[golygu | golygu cod]

Teledu[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. "Ruth Madoc: Hi-de-Hi! actress dies aged 79". BBC (yn Saesneg). 10 Rhagfyr 2022. Cyrchwyd 10 Rhagfyr 2022.
  2. "Ruth Madoc traces her family tree", WalesOnline, 27 Mawrth 2013.
  3. "Ruth Madoc" (yn Saesneg). Candis. Cyrchwyd 24 Medi 2013.
  4. "Hi De Hi actress Ruth Madoc dies aged 79 after a fall". The Scotsman (yn Saesneg). 10 Hydref 2022. Cyrchwyd 10 Hydref 2022.