Rudolf I, brenin yr Almaen
Brenin y Rhufeiniaid o 1273 hyd ei farwolaeth oedd Rudolf I neu Rwdolff I (Almaeneg: Rudolf von Habsburg; 1 Mai 1218 - 15 Gorffennaf 1291), sef teitl a roddwyd i reolwyr yr Ymerodraeth Lân Rufeinig yn dilyn ethol i'r swydd gan y dywysogion Teyrnas yr Almaen.
Roedd Rudolf yn fab i'r Cownt Albert IV o Habsburg a Hedwig, ferch Cownt Urlich o Kyburg a chafodd ei eni yng Nghastell Limburg ger Sasbach am Kaiserstuhl yn ardal Breisgau. Ar farwolaeth ei dad ym 1239, etifeddodd stadau mawr o eiddo'i dad o gwmpas Castell Habsburg yn ardal Aargau (y Swistir) ac yn Alsace hefyd. Ym 1245, fe briododd ei wraig gyntaf Gertrude, ferch Cownt Burkhard III o Hohenburg.
Roedd y dryswch yn yr Almaen yn ystod yr interregnum, yn dilyn cwymp llinach Hohenstaufen yn caniatau i Cownt Rudolf i gynyddu ei eiddo. Coronwyd ef yn frenin yn Eglwys Gadeiriol Aachen ar 24 Hydref 1273. Bu farw yn Speyer ym 1291.
Gweler hefyd [golygu]
| Rhagflaenydd: Richard o Gernyw |
Brenin yr Almaen 1273–1291 |
Olynydd: Adolf o Nassau |