Ruby Miller

Oddi ar Wicipedia
Ruby Miller
Gwybodaeth bersonol
Enw llawnRuby May Miller
Dyddiad geni (1992-08-17) 17 Awst 1992 (31 oed)
Manylion timau
DisgyblaethTrac a ffordd
RôlReidiwr
Tîm(au) Amatur
Golygwyd ddiwethaf ar
20 Tachwedd 2008

Seiclwraig rasio Cymreig ydy Ruby Miller (ganwyd 17 Awst 1992)[1].

Ganwyd Miller yn Llanilltud Fawr, Bro Morgannwg. Dechreuodd gystadlu mewn rasys triathlon pan oedd yn 10 oed, gan fod ei mam yn hyfforddwr ar gyfer Glwb Triathlon Maendy yng Nghaerdydd. Aeth Miller ymlaen i ymuno â chlwb seiclo ieuenctid y Maindy Flyers a cafodd ei chanfod gan British Cycling pan oedd hi'n cystadlu mewn ras cyclo-cross, a dewiswyd hi i fod yn aelod o Dîm Talent Cymru.[2][3]

Cystadlodd yn yr Iseldiroedd yn 2007, gan gynrychioli Cymru yn y gystadleuaeth trac "Interland". Mae Miller yn cael ei noddi, ac mae'n aelod o dîm Lifeforce Development ar y hyn o bryd.[3]

Canlyniadau[golygu | golygu cod]

2007
1af Cyfres Cyclo-cross Tlws Cenedlaethol - Ieuenctid
4ydd Cymal 1, Abergavenny
2il Cymal 2, Ipswich
1af Cymal 3, Mallory Park
1af Cymal 4, Bradford
1af Cymal 5, Derby
1af Baner Cymru Pencampwriaethau Duathlon Ieuenctid Cymru
2008
1af Baner Prydain Fawr Pencampwriaethau Cenedlaethol Cyclo-cross Prydain (Ieuenctid)[4]
1af Baner Prydain Fawr XC, Pencampwriaethau Cenedlaethol Beicio Mynydd Prydain (Ieuenctid)
2il Pursuit, Pencampwriaethau Cenedlaethol Trac Prydain (Dan 16)
2il Ras bwyntiau, Pencampwriaethau Cenedlaethol Trac Prydain (Dan 16)
2il Ras scratch, Pencampwriaethau Cenedlaethol Trac Prydain (Dan 16)
3ydd Treial amser 500 m, Pencampwriaethau Cenedlaethol Trac Prydain (Dan 16)
4ydd Ras bwyntiau, Pencampwriaethau Cenedlaethol Trac Prydain (Categori hŷn)
1af Baner Cymru Pencampwriaethau Duathlon Ieuenctid Cymru
3ydd Pencampwriaethau Duathlon Ieuenctid Prydain

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1.  Ruby Miller (17 Awst 2013). Cofnod ar Twitter.
  2.  Golden girl leads way for Welsh riders. Cyngor Chwaraeon Cymru (12 Awst 2008).
  3. 3.0 3.1  A minute with: Ruby Miller. cyclingweekly.co.uk (14 Mai 2008).
  4.  Hammond Wins National Cross Champs. Cycling Weekly (6 Ionawr 2008).