Royal Charter

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Royal Charter.

Roedd y Royal Charter yn llong hwylio stêm a ddrylliwyd ar arfordir dwyreiniol Ynys Môn ger pentref Moelfre ar 26 Hydref 1859. Collwyd y rhestr o deithwyr yn y llongddrylliad, felly nid oes sicrwydd am yr union nifer o fywydau a gollwyd, ond gallai fod cyn uched â 459. Dyma'r llongddrylliad a laddodd fwyaf o bobl o bob un ar arfordir Cymru. Collwyd tua 200 o longau llai yn yr un storm.

Adeiladwyd y Royal Charter yng Ngwaith Haearn Sandycroft ar Afon Dyfrdwy a lansiwyd hi yn 1857. Roedd yn fath newydd ar long, llong hwyliau ond gyda pheiriant ager y gellid ei ddefnyddio pan nad oedd gwynt. Defnyddid hi ar y fordaith o Lerpwl i Awstralia, ar gyfer teithwyr yn bennaf ond gyda rhywfaint o le i gargo. Roedd lle i tua 600 o deithwyr. Ystyrid hi yn llong gyflym iawn; gallai wneud y daith i Awstralia mewn llai na 60 diwrnod.

Llongddrylliad[golygu]

Drylliwyd y Royal Charter ar y creigiau hyn ger Moelfre

Ddiwedd Hydref 1859 roedd y Royal Charter yn dychwelyd i Lerpwl o Melbourne. Roedd arni tua 371 o deithwyr gyda chriw o tua 112 a rhai pobl eraill oedd yn gweithio i’r cwmni. Roedd llawer o’r teithwyr yn dychwelyd o’r cloddfeydd aur yn Awstralia, a llawer ohonynt yn dod ag aur yn ôl gyda hwy. Roedd llawer o aur hefyd yn cael ei gario fel cargo. Wrth i’r llong gyrraedd arfordir gogledd-orllewin Môn roedd y gwynt yn dechrau codi.

Ceisiodd y Royal Charter godi’r peilot ar gyfer Lerpwl pan oedd gyferbyn â Phwynt Lynas, ond erbyn hyn roedd y gwynt wedi codi i raddfa 10 ar raddfa Beaufort a’r môr yn rhy arw iddi gyfarfod y peilot. Yn ystod noson 25/26 Hydref cododd y gwynt i raddfa 12. Hon oedd Storm y Royal Charter, a achosodd ddifrod enbyd. Ar y cychwyn roedd y gwynt yn chwythu o’r dwyrain, ond yna newidiodd ei gyfeiriad i’r gogledd-ddwyrain ac yna tua’r gogledd, gan yrru’r llong tuag at arfordir dwyreiniol Môn. Am 11 o’r gloch y noson honno gollyngwyd yr angor, ond am hanner awr wedi un ar fore’r 26ain torrodd un o’r ceblau oedd yn ei ddal, yna awr yn ddiweddarach torrodd y llall. Gyrrwyd y Royal Charter tua’r lan, gyda’r peiriant ager yn methu gwneud dim yn erbyn y storm. Ceisiwyd torri’r mastiau i leihau pwysau’r gwynt ar y llong, ond fe yrrwyd y llong ar fanc tywod ger Moelfre. Yn gynnar ar fore’r 26 Hydref, wrth i’r llanw godi, gyrrwyd hi yn erbyn y creigiau rhwng Moelfre a Thraeth Llugwy. Gyda’r gwynt yn ei hyrddio yn erbyn y creigiau, drylliwyd y llong yn ddarnau.

Cofeb y Royal Charter uwchben y creigiau lle drylliwyd hi.

Gallodd un aelod o’r criw, Joseph Rogers, nofio i’r lan gyda rhaff, a defnyddiwyd hon i achub ychydig o bobl, a gallodd ychydig rhagor nofio i’r lan. Bu farw dros 450 o bobl, rhai wedi boddi ond y rhan fwyaf wedi eu lladd trwy gael eu hyrddio yn erbyn y creigiau gan y tonnau enfawr. Achubwyd 21 o deithwyr ac 18 o’r criw, pob un yn ddynion. Ni achubwyd yr un ferch na phlentyn. Ymysg yr aelodau o’r criw a fu farw roedd bachgen oedd yn frodor o bentref Moelfre ei hun, Isaac Lewis.

Dywedir fod llawer o aur wedi ei olchi i’r lan yn y dyddiau nesaf, ac i rai teuluoedd ym Moelfre ddod yn gefnog dros nos. Yr oedd yswiriant o £322,000 ar yr aur yn y cargo, ond roedd y teithwyr yn cario llawr yn ychwaneg. Cafwyd hyd i ynnau, sbectol, ac aur gan blymwyr tanfor dros y blynyddoedd.[1] Defnyddir darganfyddwyr metel tanddwr a pheiriannau eraill yn eitha diweddar (2013).[2]

Claddwyd y rhan fwyaf o’r cyrff ym mynwent Llanallgo gerllaw, lle gellir gweld beddau a chofeb iddynt. Mae hefyd gofeb ger y traeth uwchben y creigiau lle drylliwyd y llong, ger Llwybr Arfordirol Ynys Môn.

Bu rheithor Llanallgo, Stephen Roose Hughes yn eithriadol o brysur yn ceisio rhoi enwau ar y cyrff drylliedig a chysuro’r teuluoedd, ac mae’n debyg i’w ymdrechion arwain at ei farwolaeth ef ei hun yn fuan wedyn. Ymwelodd Charles Dickens ag ef yn fuan ar ôl y llongddrylliad, ac mae’r hanes yn ei gyfrol The Uncommercial Traveller.

Bron union ganrif yn ddiweddarach yn Hydref 1959 drylliwyd llong arall, yr Hindlea, ar yr un creigiau mewn storm arall. Y tro hwn roedd y canlyniad yn wahanol: achubwyd y criw i gyd gan fad achub Moelfre.

Mewn pennod o'r rhaglen deledu Who Do You Think You Are? gan y BBC, gwnaeth y garddwr Monty Don ddarganfod y bu farw un o'i deulu, Charles Hodge, yn llongddrylliad y Royal Charter.

Llyfryddiaeth[golygu]

  • Charles Dickens, Charles The uncommercial traveller (Dent (Everyman's Library),1911)
  • Jones, T. Llew Ofnadwy Nos. (Llandysul: Gwasg Gomer, 1971). ISBN 0850881064
  • McKee, Alexander The golden wreck: the tragedy of the 'Royal Charter' (Souvenir Press, 1986) ISBN 0-285-62745-7

Cyfeiriadau[golygu]

  1. Holden, Chris (2008). Underwater Guide to North Wales Cyfrol. 2. Calgo Publications. tud. 142–143. ISBN 978-0-9545066-1-2. 
  2. Julian Todd. "North Wales Kayak – Summer 2004/5". http://www.goatchurch.org.uk/ctrips/nwaleskayk/nwaleskayk.html. 

Gweler hefyd[golygu]