Round House

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Y Round House o High St, Fremantle
Arwydd ar fynediad i'r adeilad

Adeilad hynaf Awstralia yw'r Round House (Cymraeg: Tŷ Crwn). Lleolir yr adeilad, sy'n dal i sefyll, yn Arthur's Head yn Fremantle, Gorllewin Awstralia. Adeiladwyd yr adeilad yn 1830 a chynlluniwyd ef gan Henry Willey Reveley; dyma'r adeilad parhaol cyntaf ar lannau'r Swan River.

Carchar oedd y pwrpas gwreiddiol, roedd ganddo wyth cell, rhan ar gyfer y ceidwad ac roedd ganddo gwrt canol. Roedd y cynllun yn seiliedig ar y Panopticon, math o garchar a gynlluniwyd gan yr athronydd Jeremy Bentham. Defnyddiwyd y carchar ar gyfer trigolion trefol a brodorol tan 1886, yn ddalfa'r heddlu tan 1900 ac yna'n ardal preswylo i heddwas a'i deulu.

Yn 1982 daeth cyngor dinas Fremantle yn gyfrifol am yr adeilad. Mae bellach ar agor i'r cyhoedd saith diwrnod yr wythnos.

Offer personol
Parthau

Amrywiolion
Gweithrediadau
Panel llywio
Blwch offer
Ieithoedd eraill