Roseau
Oddi ar Wicipedia
Roseau yw prifddinas Dominica yn y Caribî. Saif yn ne-orllewin yr ynys, ar yr arfordir. Mae'r boblogaeth tua 16,000.
Mae Roseau yn borthladd, yn allforio ffrwythau trofannol ac olew ymysg pethau eraill.
Adeiladau a chofadeiladau [golygu]
- Eglwys gadeiriol
- Parc Windsor
Enwogion [golygu]
- Jean Rhys (1890-1979), nofelydd
- Eugenia Charles (1919-2005), gwleidydd