Rose d'Or

Oddi ar Wicipedia

Gwobr deledu yw'r Rose d'Or (Rhosyn Aur yn Gymraeg), a rhoddwyd yn flynyddol ers 1961 yng Ngŵyl Rose d'Or yn ystod Gwanwyn bob blwyddyn. Ers 2004, mae'r ŵyl wedi ei chynnal yn Lucerne yn y Swistir. O'r blaen cafodd ei chynnal yn Montreux yn y Swistir.

Mae'r gwobrau'n canolbwyntio ar raglenni adloniant ac felly'n eithrio dramâu, rhaglenni dogfennol a genres eraill a gânt eu dathlu'n fwy yn seremonïau gwobrwyo eraill.

Hanes[golygu | golygu cod]

Sefydlwyd yr ŵyl gan Marcel Bezançon a gafodd ei ysbrydoli gan yr angen cyffredin oedd â ddarlledwyr i ddod o hyd i raglenni i lenwi eu rhestrau teledu yn ystod yr haf. Roedd ganddo syniad byddai'r Swistir yn gallu cynhyrchu rhaglen adloniant a gallai gael ei chyfnewid gyda rhaglenni o ddarlledwyr eraill o amgylch Ewrop a'r byd, ac felly byddai gan bob darlledwr amrwyiaeth o raglenni i lenwi'u rhestrau teledu. Yn fuan ar ôl, cynhaliwyd yr ŵyl yng Ngwanwyn 1960 er mwyn cael rhaglenni yn barod ar gyfer yr haf, a sefydlwyd gwobrau y Rhosyn Aur fel ysgogiad ychwanegol. Yn gyflym daeth y gwobrau yn rhan bwysig o ddiwylliant deledu Ewrop.

Gwobrau[golygu | golygu cod]

Yn aml, rhaglenni Prydeinig sydd yn ennill nifer os nad y rhan fwyaf o'r gwobrau yn y seremonïau gwobrwyo. Yn 2007 enillodd y ddrama deledu Gymraeg Con Passionate y wobr am yr opera sebon orau yn Ewrop, gan ei gwneud rhaglen Gymraeg gyntaf erioed i ennill gwobr y tu fas i Gymru.

Dolen allanol[golygu | golygu cod]