Ros Láir
Oddi ar Wicipedia
Porthladd a phentref yn Swydd Wexford (Gaeleg: Contae Loch Garman), Gweriniaeth Iwerddon, yw Ros Láir neu yn llawn mewn Gwyddeleg: Calafort Ros Láir (Saesneg: Rosslare). Yn ddiweddar, ail-enwyd y porthladd yn Rosslare Europort yn Saesneg.
Ceir gwasanaethau fferi yn cysylltu'r porthladd ag Wdig (Abergwaun) a Doc Penfro yng Nghymru ac â Cherbourg a Roscoff yn Ffrainc. Mae hefyd gysylltiad cludo nwyddau i Le Havre.