Roppongi

Oddi ar Wicipedia
Bryniau Roppongi.

Ardal ym Minato, Tokyo, Japan, yw Roppongi. Mae'n ardal gefnog ac yn gartref i sîn bywyd nos bywiog. Lleolir nifer o lysgenadaethau tramor yn Roppongi ac mae'r bywyd nos a geir yno yn boblogaidd gyda gorllewinwyr; serch hynny mae'r mwyafrif llethol o drigolion Roppongi a'r ymwelwyr a'r ardal yn Japaneaidd neu'n bobl eraill o Asia. Lleolir Roppongi yn ardal ddeheuol y cylch a ddisgrifio gan y Yamanote Line, i'r de o Akasaka ac i'r gogledd o Azabu.

Cwmnïau wedi'u lleoli yn Roppongi[golygu | golygu cod]

Mae gan nifer o gwmnïau gorllewinol eu swyddfeydd Japaneaidd yn Roppongi, yn cynnwys banciau fel Credit Suisse, Goldman Sachs, State Street a Lehman Brothers, a chwmnïau cyfreithiol fel Allen & Overy, Davis Polk & Wardwell, Orrick, Herrington & Sutcliffe, Corning Incorporated a Skadden, Arps, Slate, Meagher & Flom.

Dolenni allanol[golygu | golygu cod]

Eginyn erthygl sydd uchod am Japan. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato