Ronald Gamarra

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Ronald Gamarra yn 2012

Cyfreithiwr a gwleidydd o Beriw yw Ronald Álex Gamarra Herrera (ganwyd 10 Rhagfyr 1958) sy'n arbenigo mewn hawliau dynol. Mae'n un o'r cyfreithwyr sy'n cynrychioli teuluoedd dioddefwyr Barricos Altos a La Cantuta yn erbyn cyn-Arlywydd y wlad Alberto Fujimori.[1]

Rhwng 2001 a 2004 ef oedd Dirprwy Dwrnai Cyffredinol (ad hoc) Periw mewn achosion yn erbyn Fujimori a'i gynghorwr Vladimiro Montesinos. Roedd hefyd yn rhan o'r broses o esdraddodi'r cyn-Arlywydd yn ôl o Chile. Rhwng 1988 - 2000 ef oedd cyfarwyddwr Rhaglen Gyfreithiol yr Instituto de Defensa Legal. Mae'n sgwennu colofn wythnosol yn y Lima dyddiol sef La Republica ac yn darlithio ym mhrifysgol Universidad Mayor de San Marcos.

Cyfeiriadau[golygu]