Romanos I

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Romanos I ar ddarn arian

Ymerawdwr Bysantaidd rhwng 920 a 944 oedd Romanos I Lakapenos neu Romanus I Lecapenus, Groeg: Ρωμανός Α΄ Λακαπήνος, Rōmanos I Lakapēnos, (c. 870 - 15 Mehefin, 948).

Roedd Romanos yn fab i filwr yn y gard ymerodrol, a dras Armenaidd. Ganed ef yn Lakape, ac oherwydd hynny y cafodd yr enw "Lakapenos". Cafodd ei ddyrchafu yn y fyddin dan yr ymerawdwr Leo VI, yntau o dras Armenaidd, ac yn 911 roedd yn gadfridog theme forwrol Ynys Samos ac yn ddiweddarach yn llynghesydd (droungarios).

Wedi i'r ymerodraeth gael ei gorchfygu gan y Bwlgariaid ym mrwydr Anchialus yn 917, aeth Romanos i Gaergystennin, llr roedd yr ymerodres Zoe Karvounopsina yn rheoli dros yr ymerawdwr ieuanc Cystennin VII. Llwyddodd Romanos i ennill grym oddi wrth Zoe a'i chefnogwr Leo Phokas, ac yn mis Mai 919 priododd ei ferch Helena Lekapene a Chystennin. Ym mis Rhagfyr 920 cyhoeddwyd Romanos yn gyd-ymerawdwr, gan ddod yn rheolwr yr ymerodraeth.

Treuliwyd y pedair blynedd gyntaf o'i deyrnasiad yn ymladd yn erbyn Simeon I, ymerawdwr Bwlgaria. Wedi marwolaeth Simeon yn 927, gwnaed cytundeb heddwch a'r Bwlgariaid a barhaodd am ddeugain mlynedd. Gyrrodd Romanos ei gadfridog Ioan Kourkouas i ymgyrchu yn y dwyrain yn erbyn llinach yr Abbasid, ac enillodd Ioan frwydr bwysig ym Melitene yn 934, gan gipio'r ddinas. Yn 941 ymosodwyd ar Gaergystennin gan Rus Kiev, ond gorchfygwyd hwy gan Ioan Kourkouas ac yn 944 gwnaed cytundeb heddwch ag Igor I, tywysog Kiev. Yn 943 bu Kourkouas yn ymgyrchu yng ngogledd Mesopotamia, a bu'n gwarchae ar Edessa yn 944.

Yn ei henaint, aeth Romanos i boeni am farn ddwyfol oherwydd iddo gymeryd yr oesedd oddi wrth Cystennin VII. Roedd ei feibion, Steffan a Cystennin, yn poeni y byddai Romanos yn gadael i Gystennin VII ei olynu yn hytach na hwy, ac yn Rhagfyr 944 cymerasant eu tad i'r ddalfa a'i orfodi i fynd yn fynach ar Ynysoedd y Tywysogion. Fodd bynnag, roedd pobl Caergystennin o blaid Cystennin VII, a gyrrwyd hwythau i alltudiaeth. Bu Romanos farw ym mis Mehefin 948, a chladdwyd ef yn eglwys Myrelaion.