Roland Puw

Oddi ar Wicipedia
Roland Puw
Bu farw14 Awst 1786 Edit this on Wikidata
Ochr gorllewinol Mynydd Parys

Glöwr oedd Roland Puw (bu farw 14 Awst 1786) a ddarganfu darn o fwyn copr ar yr hyn a elwir heddiw yn Fynydd Parys yn Ynys Môn ar 2 Mawrth 1768.

Cefndir[golygu | golygu cod]

Darganfuwyd y copr yng Ngherrig y Bleddia ("Mona Mine"). Dyma un o ragflaenwyr y Chwyldro Diwydiannol ar yr Ynys, ac yn wir i Gymru gyfan.

Yn ystod ffyniant y diwydiant copr ddiwedd y 18g, daeth Mynydd Parys yn enwog am yr ardal mwyaf cynhyrchiol yn y byd, o ran copr, a symudwyd tua 44,000 tunnell o fwyn y flwyddyn.[1] Ffurfiwyd Cwmni Mwynglawdd Parys ym 1778, dan reolaeth Thomas Williams, cyfreithiwr-entrepreneur o Lanidan, Ynys Môn.

Marwolaeth[golygu | golygu cod]

Roedd Puw yn byw yn ei fwthyn hyd at ei farwolaeth ar y 14 Awst 1786. Fe'i claddwyd ym mynwent Eglwys Sant Eleths yn nhref Amlwch.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. pegiallsop. "Anglesey Heritage Treftadaeth Môn - Industrial Anglesey". www.angleseyheritage.com. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2018-06-20. Cyrchwyd 2018-08-30.