Roger o Gonwy

Oddi ar Wicipedia
Roger o Gonwy
Bu farwc. 1360 Edit this on Wikidata
DinasyddiaethCymru Edit this on Wikidata
Galwedigaethffrier, diwinydd Edit this on Wikidata

Brawd Ffransisgaidd Cymreig ac awdur Lladin oedd Roger o Gonwy (Lladin: Rhosier Cambrensis) (bu farw 1360). Fel mae ei enw yn awgrymu, roedd yn frodor o dref Conwy, gogledd Cymru.[1]

Gyrfa[golygu | golygu cod]

Er nad oes sicrwydd, mae'n debyg y cafodd ei eni yng Nghonwy tua dechrau'r 14g. Cafodd ei addysg ym Mhrifysgol Rhydychen. Daeth yn un o'r Brodyr Llwydion (Urdd Sant Ffransis) a chododd yn eu rhengoedd i ddal swyddi uchel gan gael ei benodi'n Weinidog Taleithiol yr Urdd yn Lloegr yn 1355. Bu farw yn 1360.[1]

Gwaith llenyddol[golygu | golygu cod]

Fel llenor, fe'i cofir am ei draethawd Lladin Defensio mendicatum ("Amddiffyniad Cardota"), mewn ymateb i feirniadaeth lem Richard FitzRalph, Archesgob Armagh, a oedd wedi ymosod yn hallt ar le tlodi a chardota yn nysgeidiaeth y Brodyr Llywdion.[1]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. 1.0 1.1 1.2 Meic Stephens (gol.), Cydymaith i Lenyddiaeth Cymru (Gwasg Prifysgol Cymru).