Roger Mortimer, Iarll 1af March
- Erthygl am Iarll 1af March yw hon. Am bobl eraill o'r un enw, gweler Roger Mortimer.
Un o Arglwyddi'r Mers ac aelod o deulu pwerus Mortimer oedd Roger de Mortimer, Iarll 1af March (25 Ebrill 1287 – 29 Tachwedd 1330). Am dair blynedd ef oedd rheolwr de facto Lloegr.
Ganed ef yng Nghastell Wigmor, Swydd Henffordd, yn fab i Edmund Mortimer, 2il Farwn Mortimer a'i wraig, Margaret de Fiennes. Priododd Joan de Geneville yn 1301, priodas a ddaeth a thiroedd ychwanegol ar y gororau iddo.
Lladdwyd ei dad mewn ysgarmes ger Llanfair ym Muallt yn 1304, a chan fod Roger dan oed, rhoddodd y brenin Edward I ef dan oruchwyliaeth Piers Gaveston hyd 1306. Yn 1308 aeth i Iwerddon, lle bu'n ymladd yn erbyn Edward Bruce, brawd Robert Bruce, brenin yr Alban.
Yn 1318, ymunodd Mortimer a charfan oedd yn gwrthwynebu'r brenin Edward II. Bu raid iddo ildio i'r brenin yn 1322 a charcharwyd eg yn Nhŵr Llundain, ond gallodd ddianc trwy roi cyffur i'r cwnstabl, a ffôdd i Ffrainc. Y flwyddyn wedyn, daeth Isabella o Ffrainc, gwraig Edward II, i Ffrainc i ddianc rhag ei gŵr, a dechreuodd carwriaeth rhyngddi hi a Mortimer. Cawsant gymorth yn Fflandrys i godi byddin, a glaniasant yn Lloegr ym Medi 1326, gan orfodi Edward II i ffoi. Daliwyd ef yng Nghymru a'i garcharu. Coronwyd ei fab, Edward III yn 1327, ond Mortimer ac Isabella oedd yn rheoli mewn gwirionedd. Ym mis Hydref 1330 llwyddodd Edward III i gipio'r grym oddi arnynt, a chrogwyd Mortimer yn Tyburn ar 29 Tachwedd 1330.
Am dair blynedd olaf ei oes, bu Arglwyddiaeth Dinbych, yng ngogledd-ddwyrain Cymru, ym meddiant Roger Mortimer.