Robert o Amwythig

Oddi ar Wicipedia
Robert o Amwythig
Bu farw1212 Edit this on Wikidata
Galwedigaethoffeiriad Catholig, esgob Catholig Edit this on Wikidata
Swyddesgob esgobaethol Edit this on Wikidata

Esgob Bangor o 1197 hyd ei farwolaeth oedd Robert o Amwythig, Saesneg: Robert of Shrewsbury (bu farw 1212).

Bywgraffiad[golygu | golygu cod]

Ymddengys i Robert fod yn Ddeon Amwythig a phrebendari Wolverhampton. Apwyntiwyd ef yn Esgob Bangor gan Hubert, Archesgob Caergaint, i bob golwg heb iddo gaeth ei ethol, a chysegrwyd ef gan yr Archesgob ar 16 Mawrth 1197. Cofnoda Gerallt Gymro ymdrechion person y cyfeiria ato fel "R.", is-brior Abaty Aberconwy, i gael ei gydnabod fel esgob etholedig Bangor.[1]

Yn 1211, ymosododd y brenin John, brenin Lloegr ar Wynedd, mewn ymdrech i orchfygu Llywelyn Fawr. Roedd John wedi ei ysgymuno ar y pryd, a gwrthododd Robert ei gyfarfod. Ymateb y brenin oedd gyrru llu o filwyr o Brabant, a losgodd ddinas Bangor a chipio'r esgob o allor yr eglwys gadeiriol. Bu raid i Robert dalu dirwy o 200 o hebogiaid i ad-ennill ei ryddid. Bu farw'r flwyddyn ganlynol (neu 1213 yn ôl rhai ffynonellau) a chladdwyd ef yn yr Amwythig.[1]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. 1.0 1.1 J. E. Lloyd (1911) The history of Wales from the earliest times to the Edwardian conquest (Longmans, Green & Co.).