Robert de Boron

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio

Bardd Ffrangeg o ddiwedd y 12fed ganrif a dechrau'r 13eg ganrif oedd Robert de Boron (hefyd *Borron", "Bouron" neu "Beron"). Cadwyd dwy gerdd o'i eiddo; Joseph d'Arimathe a Merlin; ond dim ond rhannau o Merlin sydd at ôl.

Robert de Boron oedd yr awdur cyntaf i roi dimensiwn Cristnogol i hanes y Greal Santaidd. Dywed i Joseff o Arimathea ddefnyddio'r Greal, y llestr oedd wedi ei ddefnyddio yn y Swper Olaf, i ddal gwaed Iesu Grist pan oedd ar y groes. Cariodd teulu Joseff y Greal i Afallon, a uniaethir a Glastonbury.

Cyfeiriadau[golygu]


Planned section.svg Eginyn erthygl sydd uchod am lenor neu awdur. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.