Robert Williams (Trebor Mai)

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Trebor Mai, tua 1870

Bardd oedd Robert Williams, neu Trebor Mai (25 Mai, 1830 - 5 Awst, 1877), a anwyd yn Llanrhychwyn, yn yr hen Sir Gaernarfon, gogledd Cymru.

Ei fywyd[golygu]

Ganwyd Robert Williams yn 1830, yn Tŷ'n yr Ardd ym mhentref bach Llanrhychwyn, yn y bryniau i'r gorllewin o bentref Trefriw, yn fab i Robert ac Ann Williams. Teiliwr wrth ei grefft oedd y tad. Yn fuan ar ôl ei eni symudodd y teulu i fwthyn arall yn yr un pentref, Ty'n y Coed.

Cafodd y bardd ei addysg swyddogol yn ysgol gynradd Llanrhychwyn ac, am gyfnod byr, yn Ysgol Rad Llanrwst. Ond addysg Saesneg a gafodd yn yr ysgolion hynny; cafodd ei addysg Gymraeg yn yr Ysgol Sul leol yn y pentref a oedd yng ngofal y Methodistiaid Calfinaidd.

Pan oedd Trebor Mai yn 13 oed symudodd y teulu i Lanrwst, bedair milltir i ffwrdd. Dechreuodd Trebor weithio fel prentis i'w dad. Dechreuodd Trebor fynychu eglwys yr Annibynwyr yn y dref, oedd yng ngofal y bardd a beirniad Caledfryn yr adeg honno. Yn 1854 priododd Robert ferch crydd o Lanrwst ac agorodd siop teiliwr ar ei liwt ei hun yn nhŷ o'r enw Yr Hen Fanc. Yn 1873 symudodd i Dros yr Afon a bu yno hyd ei farwolaeth o'r ddarfodigaeth yn 1877, yn 47 oed.

Ei waith[golygu]

Nid yw'r enw barddol "Trebor Mai" ond enw y bardd wedi'i sgwennu o'r chwith (sef "I am Robert"). Mae Trebor Mai yn enghraifft ragorol o 'feirdd gwlad' y cyfnod; roedd ei dad yn barddoni a dysgodd Trebor Mai hanfodion y gynghanedd o gyfnod cynnar iawn. Arferai gyfansoddi wrth weithio yn nhai'r gymdogaeth (âi teilwriaid yr oes o dŷ i dŷ) ac yn fuan daeth yn enwog yn y fro am barodrwydd ei awen.

Fel pob bardd cymerai ran yn yr eisteddfodau, mawr a bach. Am gyfnod roedd Caledfryn yn athro barddol iddo. Y prif ddylanwad llenyddol arno oedd gwaith Ieuan Glan Geirionydd. Roedd ganddo gylch eang o gyfeillion llengar, yn cynnwys Dewi Arfon a Scorpion. Gyda Gethin Jones a Gwilym Cowlyd sefydlodd Arwest Glan Geirionydd. Enillodd ei awdl "Y Gloch" Gadair Taliesin yn yr arwest ar lannau'r llyn yn 1875. Cyhoeddodd ddwy gyfrol o farddoniaeth yn ystod ei oes, sef Fy Noswyl (1861) a Geninen (1869).

Er nad oes llawer o werth parhaol i'r cerddi eisteddfodol a gyfansoddodd mae Trebor Mai yn adnabyddus hyd heddiw am ei englynion ffraeth a synhwyrol. Bardd ei fro a'i gymdeithas ydyw ac mae ei ganu ar ei orau pan mae'n canu i gyfeillion a chymdogion ar achlysuron llawen neu drist, yn disgrifio pethau bach bob dydd neu'n ymgolli yn swyn natur Dyffryn Conwy ac Eryri.

Llyfryddiaeth[golygu]

  • Isaac Foulkes (gol.), Gwaith Barddonol Trebor Mai (Lerpwl, 1883). Casgliad cynhwysfawr o'i gerddi, ynghyd â bywgraffiad diddorol.