Robert Roy MacGregor

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Rob Roy tua 1820

Herwr Albanaidd oedd Robert Roy MacGregor, (bedyddiwyd 7 Mawrth, 167128 Rhagfyr, 1734). Adnabyddid ef fel rheol fel Rob Roy yn Saesneg a Raibeart Ruadh (Roger Goch) mewn Gaeleg.

Ganed ef yn Glengyle, ger Loch Katrine. Priododd Mary Helen MacGregor o Comar, a chwsant bedwar mab, James (a adnabyddid fel Mor, "Mawr"), Ranald, Coll a Robert (a adnabyddid fel Robin Oig, "Robin Ieuanc").

Roedd yn gefnogwr cryf i blaid y Jacobitiaid, ac ymladdodd dan John Graham, Feicownt 1af Dundee dros y Stiwartiaid. Clwyfwyd ef yn ddifrifol ym mrwydr Gen Sheil yn 1719. Yn ddiweddarch, daeth yn ffermwr gwartheg sylweddol, ond wedi iddo fenthyca swm mawr o arian i gynyddu ei ddiadell, collodd yr arian a llawer o'i wartheg pan ffôdd y gwr oedd wedi ei yrru i brynu'r gwartheg â'r arian. Oherwydd hyn, cyhoeddwyd ef yn herwr, a llosgwyd ei dŷ yn Inversnaid. Cipiodd ei brif ddyledwr, James Graham, Dug 1af Montrose, ei diroedd, a bu ymladd rhwng Rob a'r Dug hyd 1722, pan fu raid i Rob ildio. Carcharwyd ef am gyfnod, ond cafodd bardwn yn 1727.

Ysgrifennodd Daniel Defoe lyfr o'r enw Highland Rogue amdano yn 1722, a daeth yn enwog pan ysgrifennodd Syr Walter Scott ei nofel Rob Roy yn 1817. Ymddangosodd ffilm Rob Roy yn 1995.

Offer personol
Parthau

Amrywiolion
Gweithrediadau
Panel llywio
Blwch offer
Ieithoedd eraill