Robert Puleston
Oddi ar Wicipedia
Tirfeddiannwr Cymreig a brawd-yng-nghyfraith Owain Glyndŵr oedd Robert Puleston (fl. 1380 - 1410).
Roedd Robert Puleston yn fab i Richard Puleston, Emral, ac yn aelod o deulu amlwg yn ngogledd Cymru ar gororau. Yn 1386, roedd ef ac Owain Glyndŵr yn dystion yn achos Scrope v Grosvenor yng Nghaer. Rywbryd tua'r adeg yma, priododd Lowri ferch Gruffudd Fychan, chawer Glyndŵr.
Cefnogodd wrthryfel Owain, a fforffedodd ei stadau yn siroedd Caer, Amwythig a'r Fflint o ganlyniad. Yn ddiweddarach, adferwyd ei diroedd iddo.