Robert Peary

Oddi ar Wicipedia
Robert Peary
Ganwyd6 Mai 1856 Edit this on Wikidata
Cresson, Pennsylvania Edit this on Wikidata
Bu farw20 Chwefror 1920 Edit this on Wikidata
Washington Edit this on Wikidata
DinasyddiaethUnol Daleithiau America Edit this on Wikidata
Alma mater
  • Coleg Bowdoin
  • Portland High School Edit this on Wikidata
Galwedigaethfforiwr, swyddog milwrol, ymchwilydd, ysgrifennwr Edit this on Wikidata
TadCharles Nutter Peary Edit this on Wikidata
MamMary Webster Wiley Peary Edit this on Wikidata
PriodJosephine Diebitsch Peary Edit this on Wikidata
PlantMarie Ahnighito Peary, Robert Peary Jr. Edit this on Wikidata
Gwobr/auMedal y Noddwr, Grande Médaille d'Or des Explorations, Gwobra Cullum mewn Daearyddiaeth, Charles P. Daly Medal, Medal Hubbard, Uwch Swyddog y Lleng Anrhydedd, Livingstone Medal Edit this on Wikidata
llofnod

Fforiwr o Americanwr oedd Robert Edwin Peary, Sr. (6 Mai 185620 Chwefror 1920). Roedd wedi penderfynu yn ifanc iawn y byddai yn cyrraedd Pegwn y Gogledd, ac fe wnaeth baratoi yn ofalus gogyfer â'i ymgyrch i gyrraedd y Pegwn. Methiant serch hynny fu ei ymgais gyntaf er iddo lwyddo i gyrraedd lledred 87° 6'G y cyntaf i wneud.

Ar ôl dwy flynedd o baratoi sefydlodd ei bencadlys ger Cape Columbia yn Chwefror 1908 ac erbyn 28 Mawrth roeddent wedi cyrraedd y man y cyrhaeddodd Peary ar ei ymgais gyntaf. Erbyn 1 Ebrill roedd gan Peary 150 milltir i gyrraedd y Pegwn. Ar 6 Ebrill 1909 gwnaeth ef a'i dîm gyrraedd Pegwn y Gogledd.

Ar ôl cyrraedd nôl i Labrador anfonodd Peary neges i Efrog Newydd yn dweud am ei lwyddiant. Roedd neges fodd bynnag wedi cyrraedd o Norwy dri diwrnod cyn hynny yn dweud fod anturiaethwr arall o'r enw Frederick A. Cook wedi cyrraedd y Pegwn yn Ebrill 1908 ynghynt.

Bu dadlau brwd pwy gyrhaeddodd y Pegwn gyntaf. Erbyn heddiw, y gred gyffredinol yw mai twyll oedd haeriad Cook, ac na fu'n agos i'r Pegwn.