Robert Kubica
Oddi ar Wicipedia
Robert Kubica (ganed 7 Rhagfyr, 1984 yn Kraków, Gwlad Pwyl) yw y gyrrwr cyntaf o Wlad Pwyl i gystadlu yn Fformiwla Un. Ers 2006 mae wedi bod yn gyrru i dîm BMW-Sauber F1. Cafodd ddyrchafiad o yrrwr prawf i yrrwr rasio yn ystod tymor 2006. Ym mis Mehefin 2008 enillodd ei ras gyntaf yn Grand Prix Canada. Ef oedd y 99fed gyrrwr Fformiwla Un i ennill ras.