Robert Hughes
Bardd a beirniad o Ynys Môn oedd Robert Hughes (1744 - 27 Chwefror 1785), a adwaenid wrth ei enw barddol Robin Ddu yr Ail (er mwyn gwahaniaethu rhyngddo a'r bardd canoloesol Robin Ddu ap Siencyn Bledrydd, neu 'Robin Ddu', yntau'n frodor o'r ynys hefyd).
Ganed Robert Hughes ym mhlwyf Penmynydd, Môn, yn 1744. Gan iddo dderbyn addsyg dda ym more ei oes, bu am ryw gymaint o amser yn cadw ysgol ddyddiol yn Amlwch. Yn nes ymlaen, symudodd oddi yno i Swydd Amwythig ac oddi yno i Lundain, lle arosodd am ugain mlynedd fel ysgrifenydd i gyfreithiwr yn y Deml.
Yn ystod ei arosiad yn Llundain, cyfansoddodd amryw gerddi, ac argraffwyd rhai ohonynt yn y flodeugerdd adnabyddus Dewisol Ganiadau yr Oes Hon a gyhoeddwyd yn 1759 gan Huw Jones o Langwm. Yr oedd hefyd yn un o sylfaenwyr cymdeithas y Gwyneddigion.
Am fod ei iechyd yn gwaethygu, symudodd yn ôl i ogledd Cymru ac ymsefydlodd yn nhref Caernarfon. Bu farw yno o'r darfodedigaeth ar y 27 o Chwefror 1785. Cododd Cymdeithas y Gwyneddigion gofadail iddo yn eglwys Llanbeblig.
Ffynhonnell[golygu]
- Josiah Thomas Jones, Enwogion Cymru (Aberdâr, 1867)