Robert Holland

Oddi ar Wicipedia
Robert Holland
Ganwyd18 Ionawr 1557 Edit this on Wikidata
Conwy Edit this on Wikidata
Bu farw15 Tachwedd 1622 Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Galwedigaethysgrifennwr, cyfieithydd, bardd Edit this on Wikidata

Llenor a chyfieithydd Cymreig oedd Robert Holland (tua 1556/1557 - 1622[?]). Cyfieithodd sawl llyfr crefyddol o'r Saesneg i'r Gymraeg, deialog polemaidd Cymraeg, ac un llyfr Saesneg.[1]

Ganed Robert Holland yn nhref Conwy yn yr hen Sir Gaernarfon (Sir Conwy heddiw) yn 1556 neu 1557. Ar ôl cael ei addysg ym Mhrifysgol Caergrawnt cafodd yrfa fel gweinidog Anglicanaidd gan ddal rheithoriaethau yng Nghymru a Lloegr. Cyhoeddodd o leiaf chwe llyfr yn cynnwys un ar ffurf deialog sy'n beirniadu Dynion Hysbys ac ofergoeledd, sef Dau Gymro yn Taring yn bell o'u Gwlad.[1]

Llyfryddiaeth[golygu | golygu cod]

  • The Holie House of Our Lord (1592). Cerdd wreiddiol.
  • Dau Gymro yn Taring yn bell o'u Gwlad (tua 1595).
  • Agoriad byrr ar Weddi'r Arglwydd. Cyfieithiad
  • Darmerth, neu Arlwy i Weddi (1600). Cyfieithiad.
  • Catechism Mr Perkins (1672). Cyfieithiad (cyhoeddwyd ar ôl ei farwolaeth).

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. 1.0 1.1 Meic Stephens (gol.), Cydymaith i Lenyddiaeth Cymru