Robert Ellis (Cynddelw)

Oddi ar Wicipedia
(Ailgyfeiriad o Robert Elis)
Robert Ellis
FfugenwCynddelw Edit this on Wikidata
Ganwyd3 Chwefror 1812 Edit this on Wikidata
Pen-y-bont-fawr Edit this on Wikidata
Bu farw19 Awst 1875 Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Galwedigaethbardd, gweithiwr bôn braich, ysgrifennwr Edit this on Wikidata
PlantFanny Ellis, Robert Ellis Edit this on Wikidata
Cynddelw ar ddiwedd ei oes

Bardd, golygydd a geiriadurwr Cymreig oedd Robert Ellis (3 Chwefror 181219 Awst 1875), neu Cynddelw, ganed yn Nhyn y Meini, Bryndreiniog, ger Penybontfawr, plwyf Llanrhaeadr-ym-Mochnant, yn yr hen Sir Drefaldwyn, (Powys).[1] Un o'i weithiau mwyaf nodedig yw'r cywydd i'r Berwyn, sy'n cychwyn gydag, I Ferwyn af i orwedd, ei graig fawr yn garreg fedd.

Gyrfa a gwaith llenyddol[golygu | golygu cod]

Gwas fferm ydoedd o 1822 hyd 1835. Dechreuodd bregethu yn 1834 a chafodd yrfa hir fel gweinidog gyda'r Bedyddwyr. Bu'n gweinidogaethu yn Llanelian a Llanddulas, 1836-8 ; Glynceiriog, 1838-42; Sirhowy, 1847-62 a Chaernarfon rhwng 1862-75.

Bu'n olygydd ar y cylchgronau Y Tyst Apostolaidd (1845-1850) ac Y Tyst (1857). Cyfranodd erthyglau ar Carnhuanawc a Dr William Owen Pughe i'r Gwyddoniadur Cymreig yn ogystal â chynorthwyodd Gweirydd ap Rhys ar ei gampwaith Hanes y Brytaniaid a'r Cymry.

Roedd Cynddelw yn ffigwr adnabyddus ym myd llenyddol Cymru ganol y 19g. Golygodd Geiriadur y Bardd (d.d.), ac ail argraffiadiau o ddau glasur o'r 18g, sef Gorchestion Beirdd Cymru (1864) a Barddoniaeth Dafydd ab Gwilym (sic) (Lerpwl, 1873).

Gweithiai'n gadarn o blaid y Gymraeg ac yn 1867 cyhoeddodd ei eiriadur arloesol Geiriadur Cymreig Cymraeg, gyda'r is-deitl "sef, Geiriau Cymraeg yn cael eu hegluro yn Gymraeg". Dyma'r geiriadur uniaith Gymraeg gyntaf. Symbyliad Cynddelw oedd ennyn mwy o barch gan y Cymry at eu hiaith eu hunain. Fel y dywed yn ei ragymadrodd i'r gyfrol,

Dyma i chwi gynnyg newydd, a gwahanol i ddim a gafwyd o'r blaen, ym maes Geiriaduriaeth hen iaith y Cymry... Pa beth a ddywedasai y Saeson pe buasent yn awr heb yr un Geirlyfr yn eu hiaith eu hunain, namyn Saesonaeg a Lladin, neu Saesonaeg a Ffrangcaeg, etc.? Ond gadawyd ni hyd heddyw i ymdaro fel y gallem ar Eirlyfrau Cymraeg wedi eu hegluro yn Saesonaeg, neu yn y gwrthwyneb.

O'i waith ei hun, cyhoeddodd Manion Hynafiaethol (1873), cofiannau i'w athro John Williams (1805–1856) a Dr Ellis Evans o Gefn-mawr. Ymddangosodd eu cerddi yn y wasg Gymraeg ac fe'i cyhoeddwyd mewn un gyfrol, Barddoniaeth Cynddelw (1877) wedi ei farw yn ei hen gartref, y Gartheryr, rhwng Croesoswallt a Llanrhaeadr.

Llyfryddiaeth[golygu | golygu cod]

Gwaith Cynddelw[golygu | golygu cod]

Llyfrau gwreiddiol
  • Tafol y Beirdd
  • Geiriadur y Bardd (H. Humphreys, Caernarfon. Dim dyddiad, tua'r 1870au)
  • Geiriadur Cymreig Cymraeg (1867)
  • Manon Hynafiaethol (1873)
  • Barddoniaeth Cynddelw, golygwyd gan Ioan Arfon (1877)
Golygydd

Llyfryddiaeth[golygu | golygu cod]

  • D. Ambrose Jones, Llenyddiaeth a Llenorion Cymreig y Bedwaredd Ganrif ar Bymtheg (Lerpwl, 1922). Tud. 84-86.
  • David Williams, Cofiant Cynddelw (1925)

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. Y Bywgraffiadur Ar-lein; Gwefan y Llyfrgell Genedlaethol; adalwyd 04/11/2012