Robert Croft

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio

Cricedwr, Cymro Cymraeg ac aelod anrhydeddus o Orsedd y Beirdd ydy Robert Damien Bale Croft (ganwyd 25 Mai, 1970 yn Abertawe). Chwaraeodd i dimoedd Morgannwg, Cymru a Lloegr. Bu'n gapten ar Forgannwg rhwng 2003 a 2006 a'r Cymro cyntaf i gymryd 1,000 o wicedi mewn gemau Dosbarth Cyntaf a sgorio 10,000 o rediadau a hynny ym Medi 2007.

Aeth i Ysgol Babyddol St. John Lloyd's yn Llanelli ac yna i Goleg Technegol Abertawe.

Chwaraeodd i dîm Lloegr a Chymru gyntaf yn erbyn Pacistan yn 1996 ac yna chwaraeodd yn Zimbabwe a Seland Newydd. Yno, yn Christchurch cymerodd 5 wiced am 95 rhediad. Roedd ei sgôr dros y gaeaf hefyd yn arbennig: 182.1-53-340-18.

Chwaraeodd yn y Lludw yn 1997 ond cafodd ei adael allan o'r sgwad ar ôl cnocio cyfartaledd o 54 efo'r bêl. Ond yn nhrydydd prawf 1995 yn erbyn De Affrica achubodd y dydd i Loegr a Chymru pan sgoriodd 37 heb fod allan.

Roedd ei gêm genedlaethol (neu gêm brawf) olaf yn gemau'r Lludw yn Trent Bridge yn 2002. Bowliodd tair pelawd yn unig a chafodd wahoddiad i chwarae yn y prawf nesaf yn India. Gan fod hyn ychydig amser ar ôl 7/11 gwrthododd y cynnig ar sail diogelwch. Ni chwareodd chwaith yn Sri Lanka, a phan ddychwelodd oddi yno, cyhoeddodd ei ymddiswydiad o chwaraeon cenedlaethol er mwyn canolbwyntio ar gapteiniaeth Morgannwg.

Ym Medi 2006, wedi dim ond dwy fuddugoliaeth allan o 16 gêm, ymddiswyddodd fel capten Morgannwg.

Cynnwys

Lloegr: Teithiau [golygu]

Lloegr 'A'

  • West Indies 1992
  • De Africa 1993/94

Lloegr

  • Zimbabwe / Seland Newydd 1996/97
  • Sharjah / West Indies 1997/98
  • Awstralia 1998/99
  • Sri Lanka 2000/01 and 2003/04.

Anrhydeddau gyda'r Tîm [golygu]

Morgannwg (1989 – hyd yma)

Pencampwyr

Anrhydeddau Unigol [golygu]

  • Morgannwg Capten: 1992
  • Morgannwg Chwaraewr Ifanc y Flwyddyn: 1990, 1992
  • Morgannwg Chwaraewr y Flwyddyn: 1996, 2003, 2004, 2007
  • St.Helen's Balconiers: Chwarewr y Flwyddyn: 2007
  • Morgannwg tymor elwa: 2000
  • Morgannwg capten: 2003-2006
  • The Weatherall Award: 2004 (for the leading all-rounder in English first-class game)

Uchafbwyntiau [golygu]

  • Y Cymro cyntaf i sgorio 10,000 o geisiadau a chymryd 1,000 o wicedi mewn criced dosbarth cyntaf (2007)
  • Ei anrhydeddu'n dderwydd gwisg wen yn yr Eisteddfod Genedlaethol.

Llyfrau [golygu]

  • Bennett, Androw and Croft, Robert (1995) “Dyddiadur Troellwr” Y Lolfa, Talybont, Dyfed ISBN 0862433584
  • Steen, Rob with Croft, Robert and Elliott, Matthew (1997) “Poms and cobbers : the Ashes 1997 : an inside view” Andre Deutsch, London ISBN 0233992103