Robert Capa
Ganed y ffotograffydd rhyfel, Robert Capa (22 Hydref 1913 – 25 Mai 1954) yn Budapest. Roedd ei waith yn cwmpasu pum rhyfel gwahanol gan gynnwys Rhyfel Cartref Sbaen a'r Ail Ryfel Byd.
Daeth yn enwog drwy'r byd yn 1936 am y llun "Falling Soldier/Muerte de un Miliciano" o'r milwr a saethwyd yn ei ben yn syrthio'n farw. Mae amheuaeth ynghylch dilysrwydd y llun erbyn hyn ond erys yn llun eiconig o gyfnod Rhyfel Cartref Sbaen.
Tynnodd ei luniau enwocaf o'r Ail Ryfel Byd ar 6 Mehefin, 1944 (D-Day) ar ôl nofio i'r lan gyda'r ail don o filwyr a laniodd ar draeth Omaha. Tynnodd 106 o luniau ond yn dilyn camgymeriad gan aelod o staff yr ystafell dywyll yn Life yn Llundain, dim ond wyth llun a welodd olau dydd.
Yn 1947, ar y cyd â'r ffotograffydd o Ffrainc, Henri Cartier-Bresson ac eraill, sefydlodd Magnum Photos sef yr asiantaeth gydweithredol gyntaf i ffotograffwyr llawrydd ledled y byd.
Bu farw a'i gamera yn ei law ar ôl sefyll ar ffrwydryn tir wrth weithio i'r cylchgrawn Life yn Rhyfel Cyntaf Indo-Tsieina yn ne-ddwyrain Asia.
Dolenni allanol [golygu]
- (Saesneg) Bywgraffiad Robert Capa; Gwefan Magnum