Robert Ambrose Jones (Emrys ap Iwan)

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Emrys ap Iwan

Ysgrifennwr toreithiog ar wleidyddiaeth, yr iaith Gymraeg a chrefydd oedd Robert Ambrose Jones (Emrys ap Iwan) (tua 1848 - 6 Ionawr 1906). Fe'i hystryrir yn un o arloeswyr cenedlaetholdeb Cymreig.

Bywgraffiad[golygu]

Fe'i ganed yn Abergele (yn awr yn sir Conwy, yr adeg honno Sir Ddinbych). Yr oedd yn fab i labrwr o'r enw Thomas Jones. Aeth i weithio i siop ddillad yn Wrecsam a Lerpwl ar ôl gadael yr ysgol yn bedair ar ddeg oed, yna aeth i weithio fel garddwr ym Modelwyddan cyn mynd i Goleg Diwinyddol y Bala. Yn 1874 aeth i Lutry, ger Lausanne yn y Swistir fel athro Saesneg, gyda'r bwriad o wella'i Ffrangeg a'i Almaeneg. Datblygodd gariad at iaith a llên Ffrainc a gafodd effaith sylweddol ar ei weithiau llenyddol. Yn ddiweddarach aeth i'r Almaen yn athro Saesneg yn Heidelberg, Bonn a Giessen.

Wedi iddo ddychwelyd i Gymru, dechreuodd gyfrannu i'r Gwyddoniadur Cymreig ac, mewn llythyron ac erthyglau, i'r papur newydd Baner ac Amserau Cymru ac i'r cylchgrawn Y Geninen. Ysgrifennodd nifer o erthyglau yn gwrthwynebu polisi Eglwys Bresbyteraidd Cymru o adeiladu capeli Saesneg mewn ardaloedd Cymraeg eu hiaith, yr "Inglis Côs" fel y cyfeirid ato. Oherwydd hyn gwrthododd yr enwad ei ordeinio yn Llanidloes yn 1881, ond fe gafodd ei ordeinio ddwy flynedd yn ddiweddarach yng Nghymdeithasfa'r Wyddgrug, ym mis Mehefin 1883. Bu'n weinidog yn Rhuthun, Trefnant a Rhewl, ac fe'i claddwyd ym mynwent Rhyd y Cilgwyn, Rhewl ger Rhuthun yn 1906.

Ceir nifer o gangymeriadau sylfaenol yn ei gofiant gan T. Gwynn Jones, ac yn eu plith mae'r canlynol:

  • Dywed ei gofiant (a'r Bywgraffiadur a'r Cydymaith i Lednyddiaeth a gopiodd hyn yn slafaidd) mai Ffrances oedd ei nain. Nage, Margaret Coates oedd enw ei nain, merch o Lanfyllin (gweler cofrestr plwyf Llanddulas).[1]
  • Nid yn 1851 y ganed Emrys ap Iwan. Yn ôl cyfrifiad 1851 roedd yn dair oed.[1]
  • Er bod plac ar wal 'Bryn Aber', Abergele, yn honni iddo gael ei eni yno, mewn tŷ o'r enw 'Ffordd-las' roedd yn byw yn 1851. Ni chodwyd Bryn Aber tan 1859.[1]

Ymddengys mai Ann, chwaer ap Iwan oedd yn gyfrifol am y ffeithiau anghywir a roddwyd i T. Gwyn Jones ar gyfer ei gofiant, ac iddi wneud hyn er mwyn cuddio'r ffaith ei bod 15 mlynedd yn hŷn na'i gŵr.

Yr ymgyrchydd[golygu]

Yr oedd Emrys yn frwd dros yr iaith Gymraeg ac yn credu mewn hunanlywodraeth i Gymru. Gwawdiodd ei gyd-wladwyr am eu difaterwch tuag at yr iaith ac am ddynwared diwylliant a moesau Lloegr. Beirniadodd ddylanwad Saesneg ar ysgrifennu a phregethu ei gyfnod, gan annog ysgrifennwyr i ddefnyddio arddull plaen a naturiol Cymraeg. Dymunodd iddynt ddilyn enghraifft awduron clasurol yr Almaen, Lloegr a Ffrainc, oedd wedi datblygu eu ieithoedd hwythau yn eu dydd, yn enwedig y Ffrancod Blaise Pascal a Paul-Louis Courier. Gallai ei feirniadaeth fod yn llym, ond hefyd yn ddoniol, fel y dengys y cyngor canlynol ar sut i ddeall papurau newydd a chylchgronau Cymraeg:

Yn gyntaf oll, tynner allan yr holl eiriau llanw a'r holl ymadroddion chwyddedig; ac os bydd ar ôl hynny ryw nifer o eiriau'n aros ar y papur, troer hwynt o air i air, ac o sillaf i sillaf, i'r Saesneg. Hyn heb newid dim ar drefn y geiriau a wna Saesneg gweddol. Yna troer yr ymadroddion drachefn i'r Gymraeg yn ôl deddfau ac anian yr iaith. Fe welir oddi wrth hyn mai'r cwbl sy'n angenrheidiol tuag at ddeall Cymraeg newyddiadurol ydyw amser, amynedd, a gwybodaeth o'r Saesneg. (Erthyglau a llythyrau Emrys ap Iwan ii.110–11)

Yn Hydref 1889 y gwelir ei ymgyrch gyntaf, pan gytunodd i gynrychioli gwas fferm a'i amddiffyn mewn llys barn yn Stryd y Llys, Rhuthun gan nad oedd y gwas yn siarad gair o Saesneg. Gofynwyd i ap Iwan ddweud gair ar ei ran (yn Saesneg, wrth gwrs) ac atebodd yntau, 'Cymraeg yng Nghymru, os gwelwch yn dda!' Cafodd ei bardduo yn y fan a'r lle gan yr ynadon, ac yna'n ddiweddarach yn y papurau. Ond roedd wedi gwneud ei brotest - y brotest iaith cyntaf, mwy na thebyg, mewn llys barn.

Gwaith llenyddol[golygu]

Cyhoeddodd ddau lyfr yn ystod ei oes, Camrau mewn Gramadeg Cymraeg (1881) a golygiad o Gweledigaetheu y Bardd Cwsc Ellis Wynne (1898). Ymddangosodd ei ysgrifau eraill mewn cyfnodolion ac mewn cyfrolau a gyhoeddwyd ar ôl ei farwolaeth. Ymddangosodd dwy gyfrol o Homilïau ym 1906 a 1909 a chyfrol arall o bregethau ym 1927. Golygwyd tair cyfrol o ddetholion o'i weithiau gan D. Myrddin Lloyd (1937, 1939, 1940). Cyhoeddwyd ei chwedl broffwydol ar Gymru 2012, Breuddwyd Pabydd wrth ei Ewyllys (a gyhoeddwyd yn Y Geninen rhwng 1890 a 1892 yn wreiddiol) yn 2011 dan olygiad Dafydd Glyn Jones. Enwir ysgol uwchradd Saesneg Ysgol Emrys ap Iwan yn Abergele er parch iddo.

Cenedlaetholdeb Gristnogol[golygu]

Cydnabu Emrys 'fod miloedd o Saeson yn bobl y gellir eu parchu' ond beth am yr opsiwn o anghofio am arwahanrwydd y Cymry a'r iaith Gymraeg? Na pendant yw ateb Emrys, 'dadlau yr wyf' meddai 'nad yw corff y genedl Seisnig ddim yn gyfryw bobl y dylem ni'r Cymry eu haddoli a'u dynwared.'[2] Edrychwyd ar y genedl Seisnig ar ei ffurf ymerodrol Prydeinig fel ymgorfforiad o binacl gwareiddiad gan gyfoeswyr Emrys ond llugoer oedd ei dderbyniad ef o'r gwareiddiad hwnnw. 'Gall gwareiddiad ambell genedl' meddai wrth gyfeirio at Brydain 'fod yn achlysur mwy o ddrwg na barbariaeth cenedl arall. Onid yw cenedl wâr yn medru pechu mewn lliaws o ffyrdd na fedr cenedl anwar ddim pechu ynddynt.' Dadleuodd Emrys mai dylanwad negyddol yn hytrach nag un llesol a gafodd ymerodraeth Prydain ar y byd; 'onid yw yn ffaith' meddai 'fod myrddiynau o farbariaid wedi eu gwneud yn ganwaith gwaeth nag oeddent o'r blaen, trwy ddyfod i gyffyrddiad â Phrydeiniaid.'[3] Ond megis llais un yn gweiddi yn yr anialwch oedd Emrys ar y mater hwn ac fe ddangosodd ef sut y cafodd ei gyd-Gymry eu dallu nid yn unig gan olau llachar y Llo-Aur ond eu bod nhw wedi 'crynhoi eu holl serch' at lo arall yn ogystal, sef y llo Seisnig.[4] Yr oedd anghofio iaith, i Emrys, gyfystyr ag anghofio am y genedl yn llwyr. Dywedodd yn un o'i bregethau, 'pan fo cenedl yn esgeuluso dysgu ei hiaith ei hun... y mae'r genedl honno yn euog o ladd ei hun.'[5] Credodd fod agwedd ffwrdd a hi ei gyfoeswyr, sef yr agwedd lazzie fair oedd mewn bri ar y pryd, yn beryglus iawn a’u bod nhw yn rhuthro tranc yr iaith heb wir ystyried yr oblygiadau. Dywedodd mewn pregeth arall mai 'nid rhywbeth y gellid ei fwrw heibio pan y mynner, a'i newid fel dilledyn, ydyw iaith.'[6]

Beth felly oedd yn peri i Emrys sefyll yn erbyn y lli a dal safbwynt mor radical yn ei oes? Beth berodd iddo arddel safbwynt a fu'n gyfrifol, yn y bôn, i'r Methodistiaid Calfinaidd fethu a'i gymeradwy i'r weinidogaeth yn 1881? Mewn gair, a hynny yn dra eironig, ei Gristnogaeth. Do, fe wnaeth Duw bob dyn o'r un gwaed ond, fel y nododd Emrys yn un o'i bregethau, fe'i 'dosbarthodd yn genhedloedd, ac fe'u gwasgarodd dros wyneb y ddaear, gan bennu terfynau preswylfod a therfynau amser pob cenedl.' Â ymlaen i esbonio 'mai'r Duw a wnaeth ddynion a ordeiniodd genhedloedd hefyd.' I Emrys mae arwahanrwydd iaith yn hanfodol bwysig i fodolaeth a pharhad cenedl ac esbonia fod 'difodi iaith cenedl y trychineb nesaf i ddifodi'r genedl' a hynny oherwydd fod cenhedloedd sy'n colli eu hiaith yn peidio a bod yn genhedloedd o gwbl maes o law. Pam felly y tybiodd Emrys i'w Arglwydd ddosbarthu'r ddynoliaeth yn wahanol genhedloedd a chymysgu eu hieithoedd? Mae'r ateb, yn ei hanfod medd Emrys, yn gwbl syml sef 'er mwyn ceisio'r Arglwydd.'[7]

Mae dadl Emrys yn datblygu wrth iddo esbonio fod yn 'haws i genedl rydd ac annibynnol, ac i genedl a fo yn preswylio yn llonydd yn ei gwlad ei hun' meddai 'gael hyd i'w Duw na chenedl ddarostyngedig neu genedl orchfygol.' Esbonia ym mhellach fod 'cenedl ddarostyngedig yn dueddol i fyned yn wasaidd, yn ddynwaredol' a phan fo hynny yn digwydd cred Emrys fod y genedl yn troi at Dduw gyda chymhellion cyfeiliornus, fe dro at Dduw er mwyn cael 'moethau' ac 'anwes' ac nid er mwyn 'dyrchafu Ei enw.'[8] Gwrth ddadl a wynebai Emrys yn ei ddydd a dadl sydd yn dal yn fyw heddiw gan rai Cristnogion a fyn amddiffyn polisïau tramor gweinyddiaeth yr Arlywydd Bush yw fod ymerodraethu a threfedigaethu yn agor meysydd cenhadol newydd i'r ffydd Gristnogol. Cydnabu Emrys fod cenhadon a Beiblau wedi eu hanfon i drefedigaethau Prydain ond fod y trefedigaethu wedi cyflwyno opiwm ac alcohol i'r brodorion yn ogystal. Dywedodd Emrys 'ond nid a hynny o arian y mae hi yn eu gwario ar genhadon a Biblau y gall hi wneud iawn am y cam wnaeth hi â chenhedloedd eraill.' [9]

Roedd gwrthwynebwyr Emrys yn gyson yn ei bortreadu fel gwladgarwr mewnblyg a oedd am gadw ei gyd-Gymry yn Gymry uniaith. Yn ei gofiant i Emrys ap Iwan noda T. Gwynn Jones fod y cyhuddiad yma yn ei erbyn yn bell iawn o'r gwir oblegid gwnaeth Emrys 'ei orau i ddangos i'w gydwladwyr' meddai T. Gwynn Jones 'y fantais a'r ffordd i fod yn amlieithog fel y mae cenhedloedd bychan y cyfandir.'[10] Dyma oedd yr esiampl yr oedd yr apostol Paul yn ei gosod yn ôl Emrys, 'yr oedd yn dda hyd yn oed i apostol ymgydnabod â chenedl-ddynion' meddai.[11] Allblyg, ac o ddefnyddio term mwy diweddar R. Tudur Jones polycentric, oedd cenedlaetholdeb Emrys. 'Cofiwch ym mlaenaf eich bod yn ddynion o'r un gwaed a'r Saeson' meddai 'am hynny, byddwch barod i roddi iddynt hwy bob braint a fynnech ei chael i chwi eich hun.' Dyma'r geiriau, wrth gwrs, a gymerodd R. Tudur Jones maes o law fel papur litmws i brofi rhin cenedlaetholdeb yn ei gyfrol The Desire of Nations. Ar ôl atgoffa ei gyd-Gymry eu bod o'r un gwaed â phob dyn arall o ba bynnag genedl fe atgoffa ei gyd-Gymry eu bod nhw yn genedl 'trwy ordeiniad Duw' ac na ddaw hynny heb ei gyfrifoldebau. 'Gwnewch yr hyn alloch' meddai 'i gadw'r genedl yn genedl, trwy gadw'i hiaith, a phob peth gwerthfawr arall a berthyno iddi.'[12] Os am fod yn ffyddlon i Dduw, meddai Emrys, rhaid hefyd bod yn ffyddlon i'ch cenedl. 'Gan i Dduw eich gwneuthur yn genedl' meddai 'ymgedwch yn genedl; gan iddo gymeryd miloedd o flynyddoedd i ffurfio iaith gyfaddas ichwi, cedwch yr iaith honno.' Credai Emrys, drwy ei drefn a'i arfaeth, fod Duw wedi creu y genedl Gymreig a'i hiaith yn bwrpasol ac i bwrpas arbennig 'pwy a ŵyr' meddai 'nad yw Duw wedi cadw'r Cymry yn genedl hyd yn hyn, am fod ganddo waith neilltuol i'w wneuthur trwyddynt yn y byd.'[13] Wrth ddadlau o blaid gwerth cadw'r Gymraeg, a hynny mewn pregeth, fe ddywed Emrys y gall brofi ei fod yn 'pregethu'r gair.' 'Y mae gorchymyn, sef gair Duw, yn dra eang' mynnai Emrys 'ac y mae'r gair eang hwnnw yn cynnwys y ffaith hon, sef mai'r un Duw ag a roes ei Fab i gadw'r byd a roes iaith gyfaddas i bob cenedl i sôn am y Mab hwnnw.'[14]

Llyfryddiaeth[golygu]

Llyfrau Emrys ap Iwan[golygu]

  • Camrau mewn Gramadeg Cymraeg (1881).
  • (gol.), Gweledigaetheu y Bardd Cwsc, Ellis Wynne, (1898).
  • Homilïau (ail argraffiad, Dinbych, 1907).
  • Pregethau, gol. John Owen a O. Madoc Roberts (Caernarfon: Llyfrfa'r Methodistiaid Calfinaidd, 1927).
  • Detholiad o erthyglau a llythyrau Emrys ap Iwan, gol. D. Myddin Lloyd. 3 cyf. (Dinbych: Gwasg Gee, 1937–40).
  • Breuddwyd Pabydd wrth ei Ewyllys, gol. D. Glyn Jones (Bangor: Dalen Newydd, 2011).

Llyfrau amdano[golygu]

  • T. Gwynn Jones, Cofiant Emrys ap Iwan (Caernarfon, 1912)
  • D. Myrddin Lloyd, Emrys ap Iwan (Caerdydd: Gwasg Prifysgol Cymru, 1979)

Cyfeiriadau[golygu]

  1. 1.0 1.1 1.2 Daw'r cywiriadau hyn allan o'r llyfr 'Rhywbeth Bob Dydd' gan Hafina Clwyd, tudalen 13. Cyhoeddwyd 2008
  2. Emrys ap Iwan: Y Llo Arall yn 'Erthyglau Emrys ap Iwan I' D. Myrddin Lloyd gol. (Dinbych: Gwasg Gee, 1937), tt. 52
  3. Emrys ap Iwan: Crefydd a Gwareiddiad yn Homiliau II, Ezra Roberts gol. (Dinbcyh: Gwasg Gee, 1909), tt. 11
  4. Emrys ap Iwan: Wele dy Dduwiau, O Walia! yn 'Erthyglau Emrys ap Iwan I' D. Myrddin Lloyd gol. (Dinbych: Gwasg Gee, 1937), tt. 43
  5. Emrys ap Iwan: Y Ddysg Newydd a'r Hen yn Homiliau I, Ezra Robert gol. (Dinbych: Gwasg Gee, 1907), tt. 42
  6. Emrys ap Iwan: Pwy Yw Fy Nghymydog? yn Homiliau I, Ezra Robert gol. (Dinbych: Gwasg Gee, 1907), tt. 155
  7. Emrys ap Iwan: Y Ddysg Newydd a'r Hen, tt. 50
  8. Ibid, 51
  9. Ibid, 52
  10. T. Gwynn Jones: Cofiant Emrys ap Iwan (Abertawe: Hughes a'i fab, 1978), tt. 66
  11. Emrys ap Iwan: Y Ddysg Newydd a'r Hen, tt. 42
  12. Ibid, 53
  13. Ibid
  14. Emrys ap Iwan: Pwy Yw Fy Nghymydog? tt. 155