Robat Gruffudd
Sefydlydd gwasg Y Lolfa; mab i Kate Bosse Griffiths a'r Athro John Gwyn Griffiths, a brawd i Heini Gruffudd.[1] Ganed yn 1943 yn y Rhondda, a'i fagu yn Abertawe. Yn 1964 graddiodd yng ngholeg Prifysgol Cymru, Bangor mewn athroniaeth a seicoleg. Ond gwrthododd dderbyn y radd.[2] "Gwrthodaf dderbyn gradd Prifysgol Cymru am i'r Brifysgol wadu'r iaith Gymraeg...", cyhoeddodd o'r llwyfan.
Sefydlodd y cylchgrawn dychanol Lol gyda Penri Jones yn 1965, a gwasg gyhoeddi ac argraffu Y Lolfa yn Nhal-y-bont, Ceredigion, yn 1967. Dau o'i feibion, Garmon Gruffudd a Lefi Gruffudd, yw rheolwyr presennol y wasg.
Mae wedi cyhoeddi pedair nofel. Enillodd ei nofel Y Llosgi Wobr Goffa Daniel Owen yn 1986, ac roedd ei ail nofel Crac Cymraeg ar restr fer Llyfr y Flwyddyn yn 1996. Cyhoeddodd y nofel, Carnifal yn 2004, ac yn 2013 enillodd Wobr Goffa Daniel Owen am yr ail waith gyda'i nofel Afallon . Mae hefyd wedi cyhoeddi dwy gyfrol o farddoniaeth, Trên y Chwyldro yn 1974 — y gyfrol gyntaf yng Nghyfres y Beirdd Answyddogol — ac A Gymri di Gymru? yn 2009.[angen ffynhonnell]
Yn 2007 enillodd wobr Cwlwm Cyhoeddwyr Cymru am gyfraniad oes i'r byd llyfrau Cymraeg. Bu am gyfnod ar fwrdd Dyddiol Cyf., y cwmni oedd wedi gobeithio sefydlu papur dyddiol Cymraeg, Y Byd. Mae nawr yn aelod o fwrdd Dyfodol i'r Iaith, y grŵp pwyso ieithyddol.
Cyfeiriadau [golygu]
- ↑ Gwyddoniadur Cymru. John Davies, Nigel Jenkins, Menna Baines a Pheredyr Lynch; (2008) tud. 336 ISBN 978-0-7083-1953-6
- ↑ Adroddiad allan o Dafod y Ddraig: [1].