Rob Warner

Oddi ar Wicipedia
Rob Warner
Gwybodaeth bersonol
Enw llawnRob Warner
Dyddiad geni (1970-04-20) 20 Ebrill 1970 (53 oed)
Manylion timau
DisgyblaethBeicio Mynydd
RôlReidiwr
Math seiclwrLawr Allt
Golygwyd ddiwethaf ar
9 Hydref 2007

Beiciwr mynydd lawr allt proffesiynol Seisnig ydy Rob Warner (ganwyd 20 Ebrill 1970, Reading, Berkshire). Cyn troi'n reidiwr proffesiynol yn 1993, bu Warner yn gwithio yn ffatri Rover Rhydychen am chwe mis ar y linell gynhyrchu yn adeiladu car y Rover 800. Ar ôl reidio dros Saracen gyda Steve Peat ac yna MBUK, arwyddodd gytundeb gyda Giant Bicycles.

Yn 1996, daeth Rob yn y Prydeiniwr cyntaf erioed i ennill cymal o Gwpan y Byd Beicio Mynydd, UCI, cyflawnodd hyn yng nghymal Kaprun, Awstria. Ef hefyd oedd Pencampwr Beicio Mynydd Lawr Allt Prydain yn 1997, 1998 a 2001.

Y tu allan i gystadlu mae Warner wedi troi ei law at gyflwyno ar y teledu, bu'n cyflwyno'r Red Bull 2007 X Fighters Freestyle Motocross events gyda'r cyn rwyfwr Olympaidd, James Cracknell.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

Baner LloegrEicon person Eginyn erthygl sydd uchod am Sais neu Saesnes. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.