Riothamus

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio

Arweinydd milwrol Brythonig o ganol y 5ed ganrif oedd Riothamus (fl tua 470), weithiau Riotimus, Rigothamus neu Rigotamos. Ceir cyfeiriad ato gan yr hanesydd Jordanes yn ei waith Dechreuad a Gweithredoedd y Gothiaid (Getica XLV.237). Dywed ef fod Euric, brenin y Fisigothiaid wedi ceisio cipio Gâl, ac i'r ymerawdwr Rhufeinig Anthemius ofyn am gymorth gan y "Brittones". Dywed i Riothamus, brenin y Brittones, ddod gyda byddin o 12,000 o wŷr mewn llongau i wlad y Bituriges. Ymladdodd frwydr fawr yn erbyn Euric, ond gorchfygwyd ef a'i orfodi i encilio i Fwrgwyn.

Nid yw'n eglur yma a yw "Brittones" yn golygu Brythoniaid Llydaw ynteu trigolion Ynys Prydain. Cred rhai ysgolheigion mai teitl, gydag ystyr tebyg i "uchel frenin", yn hytrach nag enw personol yw "Riothamus".

Ceir llythyr a ysgrifennwyd at Riothamus gan Sidonius Apollinaris, esgob Clermont, lle mae'n gofyn am ei gymorth i berson y mae ei gaethweision wedi eu cymeryd ymaith gan "Brettones" arfog.

Awgrymodd rhai awduron, yn enwedig Geoffrey Ashe a Léon Fleuriot, y gallai Riothamus fod yn sail i'r hanesion am y brenin Arthur. Gallai yngyrchoedd Riothamus yng Ngâl fod yn gynsail i ymgyrchoedd mwy llwyddiannus Arthur yno yn yr Historia Regum Britanniae o waith Sieffre o Fynwy.