Ringo Starr
Oddi ar Wicipedia
Cerddor, canwr, cyfansoddwr ac actor Seisnig yw Ringo Starr MBE (ganwyd Richard Starkey, 7 Gorffennaf 1940). Mae'n fwyaf adnabyddus fel drymiwr Y Beatles. Ef oedd yr olaf i ymuno â'r "Fab Four" ac ef yw aelod hynaf y band.
Gweithiodd Starr fel drymiwr a lleisydd cefndirol i'r Beatles yn bennaf, ond llwyddodd fel cyfansoddwr hefyd gyda chaneuon fel "Don't Pass Me By" ac "Octopus's Garden". Ef oedd y prif leisydd ar ganeuon fel "Yellow Submarine", "With a Little Help from My Friends", "What Goes On", a "Good Night". Cafodd lwyddiant hefyd yn ei yrfa unigol gyda chaneuon fel "It Don't Come Easy", "Photograph" a "You're Sixteen".