Richard Wright

Oddi ar Wicipedia
Richard Wright
Ganwyd4 Medi 1908 Edit this on Wikidata
Natchez, Mississippi, Roxie, Mississippi Edit this on Wikidata
Bu farw28 Tachwedd 1960 Edit this on Wikidata
o trawiad ar y galon Edit this on Wikidata
Paris Edit this on Wikidata
Man preswylChicago, Paris Edit this on Wikidata
DinasyddiaethUnol Daleithiau America Edit this on Wikidata
Alma mater
  • Lanier High School Edit this on Wikidata
Galwedigaethnofelydd, ysgrifennwr, dramodydd Edit this on Wikidata
Adnabyddus amUncle Tom's Children, Native Son, Black Boy, The Outsider Edit this on Wikidata
Plaid WleidyddolPlaid Gomiwnyddol UDA Edit this on Wikidata
Gwobr/auMedal Spingarn, Cymrodoriaeth Guggenheim Edit this on Wikidata

Llenor Americanaidd oedd Richard Wright (4 Medi 190828 Tachwedd 1960) sydd yn nodedig am ysgrifennu dau o glasuron llenyddiaeth yr Americanwyr Affricanaidd: ei nofel Native Son (1940) a'i hunangofiant Black Boy (1945).

Ganed ef ar blanhigfa ger Natchez yn nhalaith Mississippi, yn ne Unol Daleithiau America, a chafodd ei fagu mewn tlodi a chan pherthnasau gwahanol. Gweithiodd mewn sawl swydd wahanol cyn ymuno â'r Ymfudiad Mawr i'r gogledd, yn gyntaf i Memphis, Tennessee, ac yna i Chicago, Illinois. Cafodd waith ysgrifennu gyda'r Prosiect Llenorion Ffederal (FWP), un o raglenni'r Fargen Newydd. Ymaelododd â Phlaid Gomiwnyddol yr Unol Daleithiau ym 1932, a symudodd i Ddinas Efrog Newydd ym 1937. Ymsefydlodd yn ardal Harlem, ac yno gweithiodd yn olygydd lleol y Communist Daily Worker.[1]

Derbyniodd glod am ei gasgliad cyntaf o straeon byrion, Uncle Tom's Children (1938). Cafodd ei nofel enwocaf, Native Son, ei haddasu'n ddrama yn theatr Broadway gan Orson Welles ym 1941 ac yn ffilm yn yr Ariannin ym 1951. Gadawodd Wright y Blaid Gomiwnyddol ym 1944, a chyhoeddodd ei hunangofiant o'i ieuenctid, Black Boy, ym 1945. Wedi diwedd yr Ail Ryfel Byd, symudodd Wright i Baris, Ffrainc, am weddill ei oes. Ystyrir ei lyfr The Outsider (1953) yn yr esiampl gyntaf o nofel ddirfodol gan Americanwr. Cyhoeddodd hefyd ysgrifau a gweithiau polemig, gan gynnwys y casgliad o ddarlithoedd White Man, Listen! (1957).

Bu farw ym Mharis yn 52 oed. Cyhoeddwyd sawl gwaith wedi ei farwolaeth, gan gynnwys y casgliad o straeon byrion Eight Men (1961) a'r hunangofiant o'i fywyd yng ngogledd yr Unol Daleithiau American Hunger (1977).

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. (Saesneg) Richard Wright (American writer). Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 22 Mehefin 2023.