Richard Roberts (Peiriannydd)
| Richard Roberts | |
|---|---|
Richard Roberts (1789–1864) |
|
| Ganwyd | Llanymynech, Trefaldwyn |
| Bu farw | 11 Mawrth 1864 |
| Cenedl | Cymro |
| Gwaith | Peiriannydd |
| Enwog am | Dyfeisydd peiriannau nyddu |
| Tref genedigol | Llanymynech |
Peiriannydd a dyfeisydd peiriannau nyddu, gwehyddu a locomotifau oedd Richard Roberts (22 Ebrill 1789 – 11 Mawrth 1864) a anwyd yn Llanymynech, Trefaldwyn (Powys heddiw). Datblygodd ddulliau o otomeiddio peiriannau nyddu a gwehyddu a oedd ymysg y cyntaf o systemau masgynhyrchu.
Y dyddiau cynnar[golygu]
Ganwyd Richard yn Llanymynech, ar y ffin rhwng Cymru a Lloegr, yn fab i grudd o'r enw William Roberts a oedd hefyd yn gyfrifol am dollborth Newbridge. Offeiriad lleol a'i addysgodd a chafodd waith ar un o gychod Camlas Ellsmere. Aeth yn ei flaen i weithio mewn chwarel galch lle cafodd ei hyfforddi gan Robert Bough, syrfewr a oedd yn gweithio i Thomas Telford i gynllunio a dylunio.
Llwyddiannau[golygu]
Ei ddyfais bwysicaf, a gofrestrodd yn 1825, oedd y The self-acting (automatic)spinning mule.
Disgrifiwyd ef fel y peiriannydd pwysicaf o wledydd Prydain yn y 19eg ganrif. Yn ôl ei fywgraffydd Richard Leslie Hills, ei brif gyfraniad oedd cyflwyno peiriannau manwl iawn; heb y rhain ni fyddai'n boisib i systemau otomatig a masgynhyrchu fod wedi digwydd a byddai'r hyn a elwir heddiw yn production engineering ddim yn bodoli.[1] Roedd, felly, allweddol i'r Chwyldro Diwydiannol ond oherwydd ei fethiant fel dyn busnes bu farw'n dlawd ym mreichiau ei ferch ac fe'i claddwyd ym mynwent Kensall Green yn Llundain yn 75 oed.
Cyfeiriadau[golygu]
- ↑ Hills 2002, t. 228