Richard Penn (comisiynydd)

Oddi ar Wicipedia

Comisiynydd Safonau Cynulliad Cenedlaethol Cymru o 2005 hyd 2010 oedd Richard Penn.

Cafodd Penn ei eni a'i fagu yn Ne Cymru[1] a graddiodd mewn economeg a seicoleg yng Ngholeg Prifysgol Caerdydd ym 1967.[2] Aeth ymlaen i ddilyn cwrs ôl-radd yng Ngholeg Prifysgol Abertawe a dysgu am ychydig yng Ngholeg Prifysgol Caerdydd.[1]

Ym 1971 daeth yn Gyfarwyddwr prosiect Datblygu Cymunedol Cwm Afan Uchaf i Gyngor Sir Forgannwg. Ym 1980 cafodd ei benodi'n Brif Weithredwr Cyngor Bwrdeistref Metropolitan Knowsley a Chlerc Awdurdod Heddlu Glannau Merswy. Ym 1989 cafodd ei benodi'n Brif Weithredwr Cyngor Dinas Bradford, ac ymddeolodd o'r swydd honno ym 1998 cyn symud yn ôl i Gymru i fyw ym Mhenarth gyda'i wraig Jill, sy'n Gadeirydd Ymddiriedolaeth GIG Gogledd Morgannwg.[1]

Gweithiodd fel Comisiynydd y Comisiwn Cyfle Cyfartal rhwng 1997 a 2002, ac yr oedd yn Aelod o'r Comisiwn Gwasanaethau Cyfreithiol rhwng 2000 a 2003.[1]

O 2001 ymlaen,[2] Penn oedd y Cynghorydd Annibynnol ar Safonau Cynulliad Cenedlaethol Cymru. Cafodd ei benodi'n Gomisiynydd Safonau'r Cynulliad ar 15 Mawrth 2005 yn dilyn proses recriwtio agored; wnaeth y swydd newydd hyn disodli swydd y Cynghorydd Annibynnol.[1] Cafodd ei olynu i'r swydd gan Gerard Elias ar 1 Rhagfyr 2010.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. 1.0 1.1 1.2 1.3 1.4  Mr Richard Penn. Cynulliad Cenedlaethol Cymru. Adalwyd ar 6 Mawrth 2010.
  2. 2.0 2.1 (Saesneg) Richard Penn. LinkedIn. Adalwyd ar 6 Mawrth 2010.