Richard Huws

Oddi ar Wicipedia
Richard Huws
Ganwyd10 Mehefin 1902 Edit this on Wikidata
Talwrn Edit this on Wikidata
Bu farw27 Chwefror 1980 Edit this on Wikidata
Talwrn Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Galwedigaethcerflunydd Edit this on Wikidata
PriodEdrica Huws Edit this on Wikidata
PlantDaniel Huws Edit this on Wikidata
Plac Richard Huws

Roedd Richard Llywelyn Huws (10 Mehefin 190227 Chwefror 1980) yn artist, cerflunydd, cartwnydd a chynllunydd' yn ôl y gofeb sydd ar wal Bryn Chwilog, y tŷ yn y Talwrn, Ynys Môn lle bu fyw a marw.[1]. Ef a gomisiynwyd yn 1933 i gynllunio logo i Blaid Cymru, sef y Triban.[2].

Magwraeth[golygu | golygu cod]

Ganed Richard Llywelyn Hughes ar 10 Mehefin 1902 ym Mhensarn, Môn, y pumed o deulu saith o blant.[3] Magwraeth Gymraeg gwledig a gafodd hyd nes yr oedd yn 18 oed. Roedd ei rieni, Thomas a Catherine Hughes ill dau yn hanu o Gaergybi; ond yr oedd hen-daid ar ochr ei dad wedi byw yn Llys-gwynt, plwyf Llanfair Mathafarn Eithaf, heb fod ymhell o Dalwrn, lle bu Richard Huws yn byw yn ei gyfnod mwyaf sefydlog, a lle bu farw yn 1980. Roedd Thomas Hughes, ei dad, yn brifathro ar ysgol Pensarn. Symudodd yn ddiweddarach i fod yn brifathro yn Llangoed. Ffrind mynwesol Richard Huws yn ei dyddiau cynnar oedd ‘Joni Pen-lan’, yn adnabyddus wedi hynny fel J.T. Jones a John Eilian, sefydlodd y cyhoeddiad ‘Y Ford Gron’.

Addysg a Chrwydro Ewrop[golygu | golygu cod]

Wedi iddo adael ysgol Biwmares fe aeth Richard Huws yn brentis i gwmni gwneud llongau Cammel-Laird yn Birkenhead. Yna fe enillodd ysgoloriaeth gan y cwmni i fynd i Brifysgol Lerpwl i astudio ‘Naval Architecture’. Tra bu yn y brifysgol fe ddarganfu ei ddawn anghyffredin fel darlunydd, neu, yn fwy penodol, ei ddawn i ddal tebygrwydd person ac i dynnu caricatiwr a chartŵn. Wedi iddo raddio o’r brifysgol yn 1927, a’i lygad erbyn hyn ar orwelion ehangach na swyddfeydd Cammel-Laird, aeth i grwydro ar y cyfandir, gan ennill arian ar y Riviera trwy wneud portreadau sydyn o’r bobl gefnog oedd i’w cael yno. Sonnir amdano mewn erthyglau papur newydd o’r cyfnod o dan y penawdau: ”Sketching and Hiking Over Europe. From Liverpool to Nice; a Welsh Ex-student’s Roving Life.” a “Tramp for Art’s Sake - Young Welshman’s 2 years of Wandering - From our own correspondent in Vienna”. Enillodd yn ddigon da i fedru cynnal ei hun am bedair blynedd yn y ‘Kunstgewerbeschule yn Fiena, un o’r ysgolion celf fwyaf blaenllaw ac eangfrydig yn Ewrop gyda dylanwad Bauhaus a phwyslais ar fentro. Dychwelodd i Brydain ar ddechrau’r 1930au ac ymsefydlu yn Llundain fel dylunydd a chartwnydd yn gweithio ar ei liwt ei hun.

Dychwelyd i Brydain a Gyrfa[golygu | golygu cod]

Yn 1931 newidiodd ei gyfenw i Huws a priododd Edrica Tyrwhitt, hithau’n arlunydd (ac yn adnabyddus heddiw am ei lluniau clytwaith dan yr enw Edrica Huws), a bu iddynt fagu pump o blant. Llundain oedd eu cartref trwy’r 1930au. Roeddent yn troi ymysg artistiaid a’r llenorion y cyfnod yn Llundain, ac am gyfnod buont yn rhannu tŷ gyda’r artist Ceri Richard a’i wraig Frances. Y gwaith o eiddo Richard Huws a gafodd y sylw mwyaf yn y cyfnod hwn oedd ‘The Mechanical Man’, model anferth yn dangos gweithrediad mewnol corff dyn, a wnaed ar gyfer arddangosfa fawr Glasgow yn 1938. Trwy gydol y 1930au bu’n gwneud cartwnau ar gyfer nifer o bapurau Cymraeg a Saesneg. Mae rhai o’r cartwnau o lenorion Cymraeg a ymddangosodd yn ‘Y Ford Gron’ a ‘Heddiw’ yn dal yn glasuron o’r math. Ymysg yr enwogion Cymraeg a bortreadodd roedd Elfed, WJ Gruffydd, Dyfnallt, Caerwyn Bach, Y Parch JJ Williams, Dr Parry Williams, a Saunders Lewis. Ymddangosai ei waith hefyd yn ‘Everyman’, ‘The New Clarion’ a ‘The Listener’.

Beetham Plaza Fountain, Liverpool

Yn 1939 symudodd Richard Huws a’i deulu i Fryn Chwilog, Talwrn. Dyma le bu’n byw am gyfnod hir tan 1953. Yn ystod y rhyfel bu’n gweithio am gyfnod i Cammel-Laird eto, ac yna i gwmni Saunders-Roe ym Miwmares. Ar ddiwedd y rhyfel aeth yn ôl i weithio ar ei liwt ei hun yn Llundain, gan ganolbwyntio’n bellach ar ddylunio diwydiannol. Cafodd gyfle arbennig adeg ‘Festival of Britain’ 1951. Ei gyfraniad amlycaf i’r Ŵyl, ac un o’r nodweddion dynnodd y sylw mwyaf, oedd ei gerflun dŵr, gwaith â ymgorfforodd syniadau newydd sbon am ddarnyddio dŵr mewn perthynas â cherflun o fetel.

Agwedd arall ar ysbryd creadigol Richard Huws oedd ei awydd i greu gerddi, i gerflunio, fel petai, darnau o natur. Ar ddiwedd y 1920au, yn ystod gwyliau haf, aeth ati i greu gardd o gwmpas y tŷ yr oedd ei rieni wedi ymddeol iddo, sef Coedlys yn Llanfairpwllgwyngyll. Yna fe greodd ardd fwy uchelgeisiol ym Mryn Chwilog, gan dirlunio a symud llawer tunnell o bridd gyda chaib a rhaw a berfa. Fe waned Richard Huws yn ‘Associate of the Institute of Landscape Architects’ ond ychydig iawn a fu iddo weithio’n broffesiynol yn y maes hwn.

Yn 1955 fe dderbyniodd Richard Huws swydd yn Adran Bensaernïaeth Prifysgol Lerpwl a bu yno tan ei ymddeoliad. Yn ôl tystiolaeth llawer i fyfyriwr, yr oedd ei gwrs yno ar ‘Basic Design’ (y teitl swyddogol, fe hoffai ef ei ddisgrifio fel ‘Constructure’) i’w gyfri yn un mwyaf cyffrous yn yr adran. Tra bu’n ddarlithydd yr oedd yn dal i wneud rhywfaint o waith dylunio diwydiannol yn breifat, a chafodd gyfle i wneud nifer o ‘gerfluniau dwr’ eraill: Un yn Tokyo yn 1962, un yn Goree Piazza (nawr Beetham Plaza) Lerpwl yn 1967, un yn Grimsby yn 1973, ac un a gomisiynwyd gan dref newydd Basildon ond na chafodd erioed ei gyflawni oherwydd toriadau ariannol. Yn anffodus dim ond yr un yn Lerpwl sydd yn parhau yn weithredol. Roedd y diddordeb yn ffurfiau natur, a symudiadau dŵr yn enwedig, yn dyfnhau yn y blynyddoedd olaf. Aeth ati i ddechrau cyfieithu llyfr Theodore Schwenk, ‘Sensitive Chaos’, i’r Gymraeg, dan y teitl ‘Dyfroedd Byw’.

Wedi dychwelyd i Fryn Chwilog, ar ôl iddo ymddeol o Lerpwl, ymgymerodd â chwblhau ei waith ar ardd Bryn Chwilog gan blannu coed brodorol y bu’n bleidiol iddynt erioed, yn ddrain, criafol, bedw, a chyll, ac ambell dderwen a chastanwydden. Bu farw 27 Chwefror 1980.

Y Triban a chenedlaetholdeb[golygu | golygu cod]

Un o orchwylion lleiaf Richard Huws yn y 1930au, ond un a wnaeth fwy o farc nag unrhyw un arall yng Nghymru, oedd dyfeisio arwydd i Blaid Cenedlaethol Cymru (yr oedd yn aelod cynnar ohoni): ‘Triban’ y Blaid ar ffurf tri thriongl gwyrdd i gynrychioli cadernid y mynyddodd. Heb fod yn hoff o gyfyngder sefydliadol, bu iddo ollwng ei aelodaeth yn hwyrach, ond roedd yn parhau yn genedlaetholwr balch o’i wreiddiau. Newidiodd sillafiad ei gyfenw o Hughes i’r sillafiad Cymraeg gwreiddiol, Huws. Yn ogystal, symudodd ei deulu yn ôl i Fôn er mwyn i’w blant dderbyn magwraeth mewn cymuned Gymraeg. Buont hefyd yn byw yn Llanrwst pan fu’n gweithio yn Lerpwl. Parhau hefyd oedd ei ddiddordeb mewn hanes a chreadigrwydd Cymru, yn enwedig llenyddiaeth. Wrth fynnu pwysigrwydd “diogelu ein treftadaeth” ychwanegodd mewn anerchiad yn Eisteddfod Talwrn 1976: “Lleia’r son am ‘ddiwylliant’, gorau byd; mwya’r son am y peth, pella mae’n cilio. Rhywbeth i ymateb iddo o wirfodd ydyw diwylliant, fel rhan naturiol o fywyd arferol dydd-i-ddydd ac nid rhywbeth dyrchafedig dirgelaidd ma’ nhw’n cadw yn yr Amgueddfa neu’r Archifau neu’r Ganolfan-Gelf-a-Chrefft i ni gael ymgrymu o’i flaen, ambell dro, er mwyn cael ein cyfrif yn barchus.” Yn yr un anerchiad roedd hefyd yn ystyried celfyddyd, diweithdra, ffyniant economaidd y gymuned a chynaliadwyedd: “Nid dihangfa yw celfyddyd, a wnêl yn unig ag oriau hamdden, ond rhywbeth sy’n blodeuo o fyd gwaith. Mae’r ddau yn un a sylfaen pob diwylliant iach ydyw cymdeithas ddiwyd ffyniannus… I’r frodoriaeth Gymreig ac i gannoedd o unedau bach tebyg ledled y byd, mae hi’n broblem arbennig - sut i gael gwaith teilwng tu fewn i’n trefn gymdeithasol ein hunain, yn sail i’n diwylliant cynhenid ein hunain - gwaith gwir-gynhyrchiol i bob un yn ôl ei allu, sy’n galw am ei holl galon, holl feddwl a’i holl nerth - rhywbeth gwell na bod yn was-bach i ddynion-dwad ac yn rhydd oddi wrth yr ofn o gael ei ddiwreiddio a’i alltudio yn ôl mympwyon y biwrocratiaid. Lle’r gwleidydd yw rhoi’r atebiad! Fentra i mond i ddweud does dim ffordd hawdd, y bydd llawer o rwystrau annisgwyliadwy, llawer o wersi eto i’w dysgu nad oes neb wedi meddwl amdanynt, a’r gorau gallwn ei wneud ydyw cadw’r nod yn wastadol mewn golwg. Yr unig beth sy’n amlwg ydyw bydd rhaid i’r holl wlad fyw yn llawer symlach a dibynnu ar bleserau symlach.”

Mewn cyflwyniad arall yn 1976, ar gyfer cynhadledd ym Mangor ar Bensaernïaeth, ysgrifennodd: “The inner compulsion to survive is manifestly not just a Welsh thing. All over the world, obscure minorities are popping up, ready to die for the sake of preserving their identities, and this psychological phenomenon is a reality that the majorities, under the present status quo, must take into account without being complacent about what they think are the common-sense priorities when prescribing a future order of government.”

Ef hefyd oedd yr artist a greodd y cartŵn adnabyddus o Gymru yn gofyn am y siswrn gan yr Iwerddon, ar ol i Iwerddon dorri’r llinyn oedd yn eu clymu i Loegr.

Plac[golygu | golygu cod]

Yn 1997, ar y 29ain o Orffennaf, gosodwyd plac iddo ar Fryn Chwilog, Talwrn, gan Gyngor Sir Ynys Môn. Rhoddwyd teyrnged i’r Artist, Cerflunydd, Cartwnydd a Chynllunydd gan ei fab Daniel Huws, a dadorchuddiwyd y plac gan ei ferch Catherine Nagashima.

Ar yr un tŷ, Bryn Chwilog, Talwrn, yn Awst 2017, dadorchuddiwyd plac arall i’w wraig, Edrica Huws, gan Eisteddfod Genedlaethol Cymru am ei chyfraniad i gelf.

Wedi dychwelyd i Fryn Chwilog, ar ôl iddo ymddeol o Lerpwl, ymgymerodd â chwblhau ei waith ar ardd Bryn Chwilog gan blannu coed brodorol y bu’n bleidiol iddynt erioed, yn ddrain, criafol, bedw, a chyll, ac ambell dderwen a chastanwydden. Bu farw 27 Chwefror 1980.

Mae’r ddau wedi eu claddu ym mynwent Eglwys Llanddyfnan.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. Gwefan Flickr; adalwyd 24 Gorffennaf 2013
  2. Gwefan BBC; adalwyd 24 Gorffennaf 2014
  3. (Saesneg) A HISTORY OF RICHARD HUWS’ PIAZZA FOUNTAIN, DRURY LANE, LIVERPOOL. Richard Moore (Ionawr 2019). Adalwyd ar 22 Mehefin 2022.