Richard Hughes (nofelydd)

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio

Roedd Richard Hughes (19 Ebrill, 1900 yn Walton-on-Thames, Surrey28 Ebrill, 1976 yn Nhalsarnau, Gwynedd)[1] yn nofelydd a bardd yn yr iaith Saesneg ac yn gymydog i Dylan Thomas ym mhentref Talacharn. Ysgrifennodd hefyd nifer o storiau byrion a dramâu.[2]

Gwas sifil oedd ei dad Arthur a ganed ei fam Louisa Grace Warren yn Jamaica. Derbyniodd ei addysg uwchradd yn Ysgol Charterhouse, Godalming, Surrey a graddiodd yng Ngholeg Oriel, Rhydychen yn 1922.

Yn Rhydychen cyfarfu Robert Graves, a gchyd-olygodd y ddau gylchgrawn ar farddoniaeth (Oxford Poetry) yn 1921. Sgwennodd ddrama fer The Sisters' Tragedy a lwyfanwyd yn Theatr y Royal Court, yn y West End yn 1922. Ef hefyd oedd y cyntaf i sgwennu drama radio; comisiynwyd Danger gan y BBC a chafodd ei darlledu ar 15 Ionawr 1924.

Llyfryddiaeth[golygu | golygu cod y dudalen]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. Gwefan http://stainedglass.llgc.org.uk/; Llyfrgell Genedlaethol Cymru)
  2. Richard Perceval Graves: Richard Hughes. A biography. London: A. Deutsch, 1994.


Planned section.svg Eginyn erthygl sydd uchod am lenor neu awdur Cymreig. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.