Richard Howell
Oddi ar Wicipedia
| Richard Howell | |
|
3ydd Llywodraethwr New Jersey
|
|
| Cyfnod yn y swydd 3 Mehefin, 1793 – 31 Hydref, 1801 |
|
| Rhagflaenydd | Thomas Henderson |
|---|---|
| Olynydd | Joseph Bloomfield |
|
|
|
| Geni | 25 Hydref, 1754 Newark, Delaware |
| Marw | 28 Ebrill 1802 (47 oed) Trenton, New Jersey |
| Priod | Keziah Burr |
| Crefydd | Esgobaethol |
Trydydd Llywodraethwr New Jersey o 1793 hyd 1801 oedd Richard Howell (25 Hydref, 1754 - 28 Ebrill, 1802).
Ganwyd Howell yn Newark, Delaware. Roedd yn efaill i'w frawd Lewis Howell ac yn un o un ar ddeg o blant Ebenezer Howell, ffermwr, a Sarah (Bond) Howell, Crynwyr a ymfudodd o Gymru i Delaware tua 1724. Roedd Richard Howell yn gyfreithiwr ac yn filwr ym Myddin (cynnar) yr Unol Daleithiau. Gwasanaethodd fel capten ac yn nes ymlaen fel uwchgapten yn Rhyfel Annibyniaeth America yn 2il Gatrawd New Jersey o 1775 hyd 1779.
Dolenni allanol [golygu]
- (Saesneg) Bywgraffi Llyfrgell Talaithol New Jersey am Richard Howell
- (Saesneg) New Jersey Governor Richard Howell, Cymdeithas Genedlaethol Llywodraethwyr